Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Achosodd pandemig COVID-19 i sawl sefydliad orfod newid ffordd o weithio'r gweithlu, a hynny o bell, yn gyflym iawn yn 2020. Mae'r weithred o ddychwelyd i arferion gweithio mewn swyddfa cyn y pandemig wedi bod yn araf, gyda sawl sefydliad nawr yn awyddus i weithio mewn modd hyblyg. Mae gweithio hybrid, er hynny, yn cyflwyno heriau newydd sy'n gofyn am feddwl yn wahanol, polisïau newydd a newid sylweddol yn niwylliant y sefydliad.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i archwilio strwythur, cynlluniau, amgylchedd allanol a chynaliadwyedd presennol eich sefydliad er mwyn ystyried sut i gryfhau isadeiledd eich gweithio hybrid. Byddwch yn dechrau nodi beth yw ystyr trawsnewid digidol yn y sector addysg uwch (SAU) a sut mae hyn yn cyflymu lleoliadau gwaith ar gyfer hybrid. Byddwch hefyd yn dechrau creu arferion er mwyn sicrhau eich sefydliad ar gyfer y dyfodol, ac ystyried ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol a all godi a sut i baratoi ar eu cyfer.



Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • cymhwyso'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac egluro pam y mae angen integreiddio cynaliadwyedd a llesiant i ddatblygiad sefydliadol
  • archwilio normau strwythurol sefydliad cyn y pandemig a dadansoddi sut y gellir eu hailgynllunio i gefnogi gweithio hybrid ac amcanion cynaliadwyedd
  • nodi sut mae trawsnewid digidol wedi cynyddu'r angen am gynhwysiant digidol a blaenoriaethau mewn lleoliadau gwaith
  • archwilio effaith gweithio hybrid ar y gwaith o ddatblygu eich sefydliad, gan gynnwys polisïau a phrosesau'r gweithle a ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2022

Wedi'i ddiweddaru: 26/10/2022

Hepgor Graddau y Cwrs