Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.6 Ystyriaethau cynhwysiant i fenywod

Amlygodd adroddiad y Cenhedloedd Unedig Progress on the Sustainable Development Goals: The gender snapshot 20211 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] bod y pandemig nid yn unig wedi amharu ar gynnydd o ran nodau allweddol cydraddoldeb rhywiol ond hefyd wedi gwrthdroi’r cynnydd a fu ar ehangu hawliau menywod trwy’r byd.

Mae’r fideo isod yn crynhoi canfyddiadau allweddol yr adroddiad.

Download this video clip.Video player: Progress on the Sustainable Development Goals: The Gender Snapshot 2021 (Sylwch nad oes llais i'w glywed ar y fideo hwn)
Progress on the Sustainable Development Goals: The Gender Snapshot 2021 (Sylwch nad oes llais i'w glywed ar y fideo hwn)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Er bod ymwybyddiaeth wedi bod bob amser o gydraddoldeb a thegwch menywod yn y gweithle, mae angen i sefydliadau ystyried sut y gallant gefnogi cau’r bwlch yn eu dull o weithredu ffyrdd newydd o weithio, a gweithio i ddeall anghenion menywod.

Yn y fideos isod mae Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, sy’n gweithio i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu mynd i’r gweithle a ffynnu yno, a Samantha Hawtin, Myfyriwr Ymchwil, y Brifysgol Agored, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar bwysigrwydd lle yn y gweithle, yn cynnig dealltwriaeth o’r hyn y dylai sefydliadau ei ystyried.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep117_overview_of_inclusion_for_women_natasha_davies.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep118_context_for_inclusion_for_women_samantha_hawtin.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 14: Pa mor hyblyg allwch chi fel sefydliad fod?

Timing: 10 munud

Mae gan lawer o fenywod fwy o ymrwymiadau amser tu allan i’r gweithle, gyda chyfrifoldebau’n amrywio o ofalu am blant, aelodau hŷn o’r teulu, rheoli’r aelwyd, a all nid yn unig arwain at anawsterau wrth reoli eu hamser yn y gweithle a gartref, oherwydd gorfod gweithio o gwmpas ‘oriau sefydlog’ (fel oriau ysgol, gofal iechyd ac oriau darparwyr gwasanaeth ariannol), a all achosi pryder am y ffordd y maent yn cael eu hamgyffred yn y gweithle, ac effaith ar eu llesiant.

Darllenwch Gweithio’n Ystwyth a Chynhwysol - Y Normal Newydd (Chwarae Teg) ac ystyriwch y fideos o’r adran hon.

Beth all sefydliadau ei wneud i alluogi mwy o hyblygrwydd a chreu diwylliant mwy cefnogol i fenywod yn y gweithle, sy’n caniatáu iddynt fod yn agored i’r hyn y gallant ei wneud i helpu o ran rheoli ymrwymiadau personol? Gwnewch nodiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).