Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Sut yr ydym yn gweithio yn awr

Gall fod yn hawdd anghofio bod gan y ffordd yr oeddem yn gweithio cyn effaith y pandemig COVID-19 byd-eang lawer o debygrwydd i’r ffordd yr ydym yn gweithio’n awr. I lawer roedd newid i weithio o bell yn golygu ychydig iawn o newidiadau i’r gwaith y maent yn ei wneud, ond roedd sefydlu eu gweithle oddi ar y safle yn her. Daeth gweithwyr a myfyrwyr yn y sector addysg uwch yn fwy cyfrifol ac atebol am reoli sut yr oeddent yn gweithio – yn arbennig yn ystod cyfnodau clo – ac roedd yn rhaid iddynt gael cydbwysedd rhwng eu gwaith â’u hamgylcheddau a’u hanghenion personol. Wrth symud ymlaen, mae angen ffordd o weithio sy’n caniatáu ar gyfer parhau yn hyblyg gan fodloni anghenion sefydliadol.

Gweithgaredd 9: Newid y ffordd o weithio

Timing: 20 munud

Gwyliwch y fideo hwn lle mae Jacob Morgan yn rhannu dealltwriaeth am y ffordd y mae sefydliadau’n esblygu.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep112_future_of_work_jacob_morgan.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Darllenwch yr erthygl o BBC Worklife – How companies around the world are shifting the way they work [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . A yw hyn yn teimlo’n gyfarwydd i’ch profiad chi o’r newidiadau yn y ffyrdd o weithio?

Fel y gallwch weld o’r delweddau isod, mae’n bwysig cofio na wnaeth patrymau gwaith rhai unigolion newid: fe wnaethant barhau i fynd i’w safleoedd trwy’r cyfnodau clo, neu roeddent yn gweithio o bell yn barod.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 13: Mae’r gyfran o oedolion sy’n gweithio sydd wedi cofnodi eu bod yn gweithio o gartref yn unig wedi amrywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Working adults, Great Britain, May 2020 to May 2021. Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – Arolwg Barn a Ffordd o Fyw.

Nodiadau ar gyfer Ffigwr 13:

  1. Efallai na fydd y canrannau yn dod i 100% wrth eu hadio oherwydd talgrynnu.
  2. ‘Cyfnod clo gwanwyn 2020’: 23 Mawrth 2020 i 13 Mai 2020.

    ‘Cyfyngiadau hydref a gaeaf 2020’: 14 Hydref 2020 i 4 Ionawr 2021.

    ‘Cyfnod clo cynnar 2021’: 5 Ionawr 2021 i 8 Mawrth 2021.

    ‘Cyhoeddi llwybr allan i Loegr’: 22 Chwefror 2021.

    ‘Dechrau codi cyfyngiadau’: 8 Mawrth 2021.

  3. Gallwch archwilio’r fersiwn ryngweithiol o’r ddelwedd yma.
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 14: Niferoedd yn Gweithio o Gartref yn unig yn y Deyrnas Unedig yn ystod 2020 Ffynhonnell: Gweithio o bell – y normal newydd?

Wrth i’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio’n effeithiol esblygu, mae’r ddibyniaeth ar dechnoleg i weithio a dysgu o bell wedi golygu bod gallu digidol, cyfathrebu a rheoli amser wedi gorfod datblygu’n gyflym.

Addasodd unigolion a SAU y ffordd yr oeddynt yn gweithio ac roedd yn rhaid iddynt gynnig dysgu o bell i’w myfyrwyr, ac ystyried trefniadau domestig heb y seilwaith i gefnogi hyn yn briodol. Cododd yr ansicrwydd hwn bryderon am yr ymddiriedaeth sydd gan fyfyrwyr yn eu SAU i roi’r gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen.

‘UK should pay more attention to the potential relationship between trust and mental wellbeing. Among the more consistent findings in the literature are our results concerning gender, previous financial strain, food security and housing security, all of which have been found to impact mental health and/or mental wellbeing.’

Gweithgaredd 10: Dysgu oddi wrth y pandemig:

Timing: 10 munud

Porwch trwy’r erthyglau ac adroddiadau y mae dolenni iddynt isod, sy’n archwilio effaith y pandemig ar SAU a myfyrwyr. Ystyriwch sut y mae’r rhain yn adlewyrchu arferion gwaith eich sefydliad chi ar hyn o bryd.

Meddyliwch am eich profiad chi eich hun o’r pandemig. Sut wnaethoch chi addasu, a sut wnaeth eich sefydliad ymateb? Os ydych mewn SAU, beth oedd yr effaith ar fyfyrwyr?

Gwnewch nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Ar lefel bersonol bydd eich profiadau yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Er enghraifft, roedd yn rhaid i mi warchod fy hun. O safbwynt gwaith ni wnaeth dim newid mewn gwirionedd gan fy mod eisoes yn gweithio o bell, ond fe wnes i newid fy swydd 4 gwaith yn ystod y cyfnod clo 2 flynedd, oherwydd diddymu swydd, gweithio llawrydd a chael contract tymor penodol ac yna swydd barhaol. Roeddwn yn addysgu fy mhlant adref, fe wnes adnewyddu’r tŷ, ac ar rai dyddiau roeddwn yn dibynnu ar fynd â’r ci am dro a choffi o’r caffi lleol i siarad ag oedolyn arall yn y cnawd. Mae gwarchod fy hun wedi cael effaith ar fy ngallu i gymdeithasu. Dim ond yn ddiweddar yr wyf wedi teimlo’n fwy cyfforddus yn dechrau cymysgu ag eraill eto.

O safbwynt sefydliadol, roedd hyn yn amrywio, o gael ‘pecynnau gofal’ i deimlo’n hollol ynysig, gyda baich gwaith cynyddol nad oedd yn weledig. Gan gydnabod hefyd bod sefydliadau’n addasu’n ddyddiol ac yn dechrau dod o hyd i’w ffordd eu hunain trwy’r ansicrwydd.

I rai, roedd yr addasiad cyflym a pharhaus hwn i amwysedd ac ansicrwydd yn cael effaith sylweddol ar eu llesiant, diolch i ffactorau fel cyfyngiadau a orfodwyd arnynt, pryderon am beryglon i’w hiechyd, a chydbwyso gofynion eu bywydau personol wrth iddynt ymdrin â newid cyson.

Roedd effaith lawn hyn yn amrywio gan ddibynnu ar amgylchiadau personol. Er enghraifft, roedd pobl oedd yn gorfod gwarchod yn wynebu oblygiadau cael eu cau oddi wrth y byd yn llwyr ar unwaith, ond yn ymarferol roedd yn rhaid iddynt ystyried gweithio o amgylch y rheolau i wneud pethau syml fel mynd â’r ci am dro, neu hyd yn oed i brynu bwyd. Os dywedir wrthych na chewch chi fynd i’r siopau, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i ddewisiadau eraill, fel dibynnu ar ffrindiau/teulu i siopa i chi, dosbarthiadau ar-lein (os gallech chi gael amser) neu gynlluniau bwyd gan y cyngor, gan gael cyfnodau o beidio siarad ag unrhyw unigolion eraill na’u gweld yn y cnawd.

Bydd newidiadau diwylliannol wedi digwydd mewn sefydliadau hefyd, yn arbennig SAU, lle gwnaeth campysau fu’n ffynnu unwaith droi’n anialwch, a daeth y galw am ddarpariaeth ddysgu ar-lein yn anghenraid. O ganlyniad, bydd rhagor o SAU yn awr yn cynllunio i gynnig dull ‘cymysg’ o ddysgu – ‘oedd yn cynnwys e-ddysgu gyda fformatau ar-lein, dull cymysg oedd yn cynnwys dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb a dysgu yn y cnawd’ (Ameduni a Ligoro, 2022) – fel rhan safonol o’u darpariaeth, dim fel ymateb argyfwng i’r pandemig yn unig.