8 Trawsnewid eich sefydliad ar gyfer y dyfodol
Wrth i SAU esblygu ac addasu, mae angen iddynt ystyried y gallu mewnol sydd ganddynt i gyflawni eu hamcanion sefydliadol a deilliannau myfyrwyr, a cheisio ymateb i ffactorau allanol sy’n mynnu sgiliau newydd.
Cwestiwn allweddol i sefydliadau ei ateb yw pwy fydd arnynt ei angen i gefnogi’r newidiadau hyn. Bydd deall eich gallu presennol a dynodi bylchau sgiliau yn cynorthwyo wrth gynllunio at y dyfodol: a oes gennych weithwyr fyddai’n gallu datblygu eu hunain i fodloni anghenion y sefydliad, neu a oes angen i chi recriwtio? Mae’n hanfodol i chi gael cydbwysedd rhwng gweithwyr presennol sy’n deall eich sefydliad, a gweithwyr newydd a all weithio gyda nhw i fodloni’r anghenion fel y maent yn newid.
Mae’r LinkedIn Workplace Learning Report 2022 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn amlygu mai sgiliau arwain sydd bwysicaf ar gyfer y dyfodol. Mae’r ffeithlun isod yn rhoi trosolwg defnyddiol o feysydd dysgu a datblygu sydd angen eu hystyried.
Gall SAU ddwyn safbwynt unigryw at ddatblygu eu gallu sefydliadol trwy feddwl sut y gall gwasanaethau proffesiynol a’r gymuned academaidd gael eu cynnwys wrth ddylunio cynlluniau ‘Dysgu a Datblygu’ mewnol ar gyfer y tymor hir. Mae galluogi diwylliant mewn SAU sy’n annog cynnwys pobl ac yn integreiddio rhanddeiliaid ac arbenigwyr o wahanol rannau o’r sefydliad, yn ogystal â phartneriaid allanol, yn cynnig y potensial i ddatblygu strategaeth ‘Ddysgu a Datblygu’ sy’n sicrhau y bydd gallu eich gweithlu yn cael ei gynyddu.
Mae canolbwyntio ar anghenion y gweithlu sefydliadol, wedi ei gysoni a’i strategaeth a deall yr amgylchedd allanol, yn caniatáu dull sydd wedi ei dargedu ymhellach ac sy’n fwy effeithiol. Gall hyn gynnwys creu swyddi newydd yn eich sefydliad, i arwain ar y meysydd y mae arnoch angen eu datblygu.
Un o’r pryderon allweddol i sefydliadau yw’r bylchau mewn sgiliau digidol, a sut i gynyddu gallu digidol yn y gweithlu. Gall hyn fod yn gymhleth oherwydd bydd y rhan fwyaf o dechnolegau a dibyniaeth ddigidol sefydliadau yn gymhleth hefyd, a rhaid i lywodraethiant, cydymffurfio ac ymddygiad gael eu cynnwys wrth gynyddu gallu. Bydd ar bron bob aelod o sefydliad angen sgiliau digidol ond, gan ddibynnu ar y swydd, gall y rhain amrywio o sgiliau arbenigol – datblygwyr DevOps er enghraifft – i ddim ond y gallu i ddefnyddio e-bost yn effeithiol mewn swyddi eraill. Yn y fideo isod mae Gemma Hallett – Pennaeth Sgiliau yn FinTech Wales a miFuture Sylfaenydd – FinTech Wales a miFuture – yn rhannu ei gwybodaeth am y prinder sgiliau, ond hefyd y cyfleoedd i sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol y sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol.
Gweithgaredd 23: Twf yn llif gwaith
Darllenwch yr erthygl A New Strategy For Corporate Learning: Growth In The Flow Of Work ac ystyried eich beth a sut o ran datblygu eich dull o ymdrin â dysgu a datblygu yn eich sefydliad. Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.