Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.1 Arweinyddiaeth ddigidol

Er mwyn i sefydliadau drawsnewid yn ddigidol yn llwyddiannus mae arnynt angen meithrin sgiliau arwain digidol. Nid oes raid i arweinwyr digidol fod yn arbenigwyr mewn technoleg ond mae angen iddynt fod â gwybodaeth i allu gwneud cysylltiadau a chael sgyrsiau sy’n galluogi’r sefydliad i ymwreiddio diwylliant digidol yn gyntaf.

Mae cael iaith ddigidol gyffredin i arweinwyr, yn ddull a all symleiddio jargon technoleg, a helpu i ganolbwyntio ar y cyfleoedd a’r risgiau i alluogi trawsnewid digidol. Awgryma Deloitte Insights:

Trwy dderbyn iaith gyffredin, gall sefydliadau ddechrau:

  • Torri trwy ymddygiad dynol a rhwystrau strwythurol. Mae popeth mewn sefydliad yn rhyng-gysylltiedig. Gall siaradwyr ar draws swyddogaethau siarad yn ddamcaniaethol am anghenion a rennir, osgoi buddsoddiadau di-fudd, ymdrin â risgiau sy’n dod i’r amlwg, a newid prosesau ar raddfa trwy gyfathrebu’n well yn syml.
  • Cynllunio tu hwnt i un dechnoleg. Mae llwyfannau, gallu a chynlluniau yn aml yn gofyn am dechnolegau digidol a ffisegol niferus yn gweithio’n ddiogel gyda’i gilydd. Wrth i’r technolegau hyn gyfuno, maent yn mynd yn fwy na chyfanswm y rhannau i ddwyn gallu newydd a mwy o werth.
  • Esblygu i’r dyfodol. Mae technoleg arloesol heddiw yn dechnoleg etifeddol yfory. Gall iaith gyffredin alluogi arweinwyr i feddwl yn hyblyg ar draws matrics o anghenion busnes a thechnoleg, heb i’r strategaeth fusnes fod yn ddibynnol ar unrhyw dechnoleg unigol.
  • Cyflawni mwy o werth busnes strategol trwy ei allu i newid a’r gallu i ennill. Mae’r dull hwn yn helpu sefydliadau i gysoni a gweithredu’n well mewn cymhariaeth â’u strategaeth fusnes i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir o fantais a gallu’r sefydliad, pobl a thechnoleg i addasu.

Ffynhonnell: Deloitte [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Gweithgaredd 19: Sut mae arweinydd digidol yn edrych?

Timing: 20 munud

Gwyliwch y fideo hwn lle mae Jacob Morgan yn rhannu sgiliau arweinyddiaeth ddigidol.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sept125_digital_leadership_technology_teenager.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yna, chwiliwch am yr erthyglau canlynol:

6 Characteristics of Digital Leadership

Leadership in a digital age

Beth ydych chi’n ei feddwl sy’n ofynnol ar gyfer arweinyddiaeth ddigidol Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae angen i arweinwyr digidol hefyd gynllunio strategaeth i sicrhau bod gan yr holl weithwyr y gallu digidol, y sgiliau a’r ymddygiad angenrheidiol i ffrwyno offer a data digidol, a bod ag ymwybyddiaeth o anghenion gwahanol eu gweithwyr, myfyrwyr (i SAU), a’r gymuned ehangach.

Gweithgaredd 20: Chwe ffactor ar gyfer trawsnewid digidol llwyddiannus

Timing: 10 munud

Mae’r Boston Consulting Group (BCG) yn argymell chwe ffactor ar gyfer trawsnewid digidol llwyddiannus:

  1. Strategaeth integredig gyda nodau trawsnewidiol clir
  2. Ymrwymiad arweinwyr o’r Prif Swyddog Gweithredol i’r rheolwyr canol.
  3. Defnyddio talent o safon uchel.
  4. Meddylfryd llywodraethu ystwyth sy’n gyrru mabwysiadu yn ehangach.
  5. Monitro effeithiol ar gynnydd tuag at ddeilliannau diffiniedig.
  6. Technoleg fodiwlaidd a llwyfan data wedi eu harwain gan fusnes.

Ffynhonnell: BCG: Digital Transformation

Gwyliwch y fideo The keys to digital transformation: getting the success factors right sy’n esbonio’r chwe ffactor. Fel gweithgaredd dewisol, efallai y byddwch hefyd am edrych ar erthygl BCG Digital Transformation Strategy Consulting | BCG sydd, tua hanner y ffordd i lawr, â fideos ychwanegol ar bob un o’r ffactorau ac yn esbonio.

Sut gallai arweinwyr ddefnyddio’r ffactorau hyn i ddatblygu dull eu sefydliadau o ymdrin â thrawsnewid digidol? Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae dull BCG o ymwneud â thrawsnewid digidol yn dechrau trwy asesu ble mae sefydliad heddiw, a ble mae am fynd. Mae’r ddelwedd isod yn dangos yr amserlen a’r deilliannau y gall sefydliadau anelu at eu cyflawni.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 27: Proses drawsnewid digidol y Boston Consulting Group

Gweithgaredd 21: Archwilio beth allai trawsnewid digidol i SAU ei gynnwys

Timing: 15 munud

Yn yr adran hon rydym wedi edrych ar drawsnewid digidol yn y cyd-destun ehangach wedi ei anelu’n bennaf at y byd corfforaethol, sy’n bwysig wrth feddwl am SAU yng nghyd-destun busnes.

Ystyriwch y Ffyrdd Hybrid o Weithio: Fframwaith Cyd-destunol, Strategaeth Ddigidol i Gymru a’r gweithgareddau yn gynharach yn y cwrs yn archwilio eich amgylchedd mewnol ac allanol. Er bod angen i SAU weithredu fel busnes, mae angen iddynt hefyd ystyried anghenion eu myfyrwyr, eu dull o addysgu a chyflawni addysgu a dysgu, ac mae’r symud tuag at ddysgu ar-lein yn ystod y pandemig COVID-19 wedi arwain llawer o sefydliadau i gynnig dull dysgu cymysg.

Yna darllenwch yr erthyglau canlynol:

Tackling digital transformation together

Consider the Three Ds When Talking about Digital Transformation

Mae Educause yn awgrymu dull y Tair D o ran trawsnewid digidol i SAU – Digideiddio, Digidoleiddio a Thrawsnewid Digidol.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 28: Y broses i gyflawni a gwahaniaethau rhwng digideiddio, digidoleiddio a thrawsnewid digidol

Ystyriwch erthygl Educause, ac ystyried pa elfennau o’r dulliau BCG a Tair D all alluogi SAU i drawsnewid yn ddigidol a chyflawni deilliannau Strategaeth ddigidol i Gymru a’r Nod llesiant Cymru Lewyrchus – Sgiliau at y dyfodol yn llwyddiannus?

Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch testun rhydd isod:

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).