10 Crynodeb o’r cwrs
Ar ddechrau’r cwrs hwn fe wnaethom ofyn i chi feddwl am ffyrdd eich sefydliad o weithio ac ystyried a yw:
‘Mae prifysgolion mewn sefyllfa dda i gydweithio â phartneriaid ledled Cymru er mwyn cynorthwyo ag adferiad ein gwlad o’r pandemig ac adeiladu dyfodol Cymru gyda’n gilydd.’
Yn y fideo isod mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn rhannu ei barn am ran SAU wrth ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol
Transcript
Rhowch amser i fyfyrio am yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu am sut y mae sefydliadau yn gweithredu’n awr, yr ystyriaethau wrth gynllunio ac addasu mewn cyfnod ansicr, effaith y trawsnewidiad digidol, a phwysigrwydd ymwreiddio arferion gwaith cynaliadwy, yn ogystal â chyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a thargedau sero net.
Ym mha feysydd ydych chi’n teimlo y mae eich sefydliad yn gwneud yn dda, a bell all fod angen ei wella?
Wrth i’ch sefydliad esblygu i lwyddo a diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol, daliwch ati i ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth eich hun o ffyrdd hybrid o weithio i SAU, a meddwl sut y gallwch ddefnyddio’r fframwaith cyd-destunol i’ch cynorthwyo yn y tymor hir.
- Dylech chi a’ch ffyrdd o weithio ystyried y rhanddeiliaid allweddol yn eich amgylchedd a’u hanghenion yng nghyswllt datblygu sefydliadol.
- Mae arnoch angen deall gofynion sefydliadol, y cyd-destun, cysylltiadau, a’r gofynion ar gyfer meysydd allweddol a sut y mae’r rhain yn gysylltiedig ag anghenion eich rhanddeiliaid.
- Mae arnoch angen ystyried eich ffordd o weithio er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi Gweithio Hybrid a Thrawsnewid Digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , efallai yr hoffech ei archwilio ymhellach.