3.1 Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
Y Nodau Datblygu Cynaliadwy / The Sustainable Development Goals [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (NDC / SDGs) yw’r fframwaith ar gyfer gwella bywydau poblogaethau o gwmpas y byd a lliniaru effeithiau peryglus newid hinsawdd o wneuthuriad dyn (UN, dim dyddiad)
Yn 2015 mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig yr NDC fel canllaw i bolisïau datblygu. Mae 17 o NDC fel y gwelir yn y ddelwedd isod. Bwriad y nodau hyn oedd galluogi gwledydd unigol i osod a mesur eu cynnydd eu hunain tuag at y nodau trwy dargedau addas. Wrth i sefydliadau ddatblygu eu dull o ymdrin â chynaliadwyedd, dylent ystyried sut y gallant gyrraedd y nodau hyn, a’u plethu i’w strategaethau, polisïau a’u ffordd o weithio eu hunain.
Gweithgaredd 5: Dysgu am NDC y Cenhedloedd Unedig
Ewch i wefan NDC y Cenhedloedd Unedig, a chymryd amser i ddysgu am yr 17 nod ac archwilio’r safle.
Ystyriwch pa rai o’r nodau sydd fwyaf perthnasol i’ch sefydliad chi, sut y gall sefydliadau addysg uwch gyfrannu at gyflawni’r nodau hyn, a beth mae eich sefydliad yn ei wneud yng nghyswllt y nodau hyn. Efallai y byddwch am ddefnyddio’r blwch isod i gofnodi eich syniadau.