3 Cynaliadwyedd a llesiant
‘In 1987, the United Nations Brundtland Commission defined sustainability as ‘meeting the needs of the present without compromising the ability of future generations to meet their own needs.
Wrth ddatblygu dull sefydliadol o ymdrin â chynaliadwyedd, mae’n bwysig i lesiant gael lle blaenllaw, ac nad yw’r pwyslais ar ddim ond y targedau i liniaru’r argyfwng newid hinsawdd. Nododd Cytundeb Hinsawdd Paris 2015 darged i atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi dros 2.0°C (1.5°C yn ddelfrydol), a chytundeb gan bartïon Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) i leihau allyriadau carbon o 45% erbyn 2030 a chyrraedd sero net erbyn 2050.
Mae’n ofynnol dan y gyfraith i bob sefydliad yn y Deyrnas Unedig leihau ei allyriadau carbon. Mae’r dull o wneud hyn yn amrywio trwy’r Deyrnas Unedig. Gallwch archwilio’r rhain ar gyfer eich cenedl chi trwy’r dolenni isod:
- Cymru – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(Cyrff cyhoeddus yn unig) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Lloegr – Deddf Newid Hinsawdd 2008 a Cynaliadwyedd a newid hinsawdd: strategaeth ar gyfer systemau addysg a gwasanaethau plant
- Yr Alban – Deddf Newid Hinsawdd (Targedau Lleihau Allyriadau) (Yr Alban) 2019
- Gogledd Iwerddon – Rhaglen Addasu Newid Hinsawdd Gogledd Iwerddon