4.5 Amrywiaeth o ran cenedlaethau
Mae deall disgwyliadau gwahanol genedlaethau yn ddefnyddiol i archwilio anghenion eich gweithwyr a’ch myfyrwyr.
Bydd y gwahaniaethau rhwng cenedlaethau, profiadau a disgwyliadau’r rhai sydd wedi ymsefydlu yn y gweithle, neu sydd wedi ymuno yn ystod y cyfnod clo a allai fod wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu eu swydd wedi ei diddymu, â’r rhai sy’n cychwyn yn eu swydd gyntaf yn wahanol iawn i’r rhai yn y sefydliad cyn COVID-19. Bydd eu hyder, eu hanghenion a’u disgwyliadau yn amrywio. Efallai na fydd y rhai sydd wedi ymuno yn ystod cyfnod clo erioed wedi cyfarfod eu tîm yn y cnawd, a bydd y rhai sydd wedi dod yn syth o addysg ffurfiol wedi cael profiad digynsail o gylch parhaus o addysg ffurfiol yn addasu yn ystod cyfnodau clo.
Mae’n debygol y bydd angen i’w sgiliau a’u lefel o ddealltwriaeth o sut i ymddwyn mewn gweithle gael eu datblygu a’u cefnogi. Os oedd eu profiad cyntaf o weithio o bell, bydd amgylcheddau gwaith yn y cnawd yn addasiad, bydd eu gallu digidol yn amrywiol, a gall eu gwytnwch fod yn is na’r disgwyl.
Bydd gan y rhan fwyaf o sefydliadau weithlu amrywiol o ran cenedlaethau. Er ei bod yn synhwyrol ystyried eu gwerthoedd a’u credoau a’u harddull gwaith, mae’n bwysig hefyd peidio â thybio bod pawb o blant y mileniwm yn alluog yn ddigidol neu na fydd y rhai aned yn yr 1960au yn gallu ymdrin â thechnoleg. Gan ddibynnu ar eu rolau yn y sefydliad a’u profiad, mae angen i chi ystyried yr unigolyn. Mae’n bwysig deall yr amgylcheddau y mae cenedlaethau gwahanol wedi bod yn agored iddynt, eu haddysg, disgwyliadau gwaith a’u mynediad at dechnoleg. Gall deall sut i ddwyn cenedlaethau gwahanol at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd fod yn fuddiol i sefydliad, i annog amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol.
Mae’r ffeithlun gan Generation Z [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn rhoi trosolwg defnyddiol o’r nodweddion, tueddiadau a gwerthoedd y gall pob cenhedlaeth eu dwyn i’r gweithle.
Gweithgaredd 13: Sut i greu ymddiriedaeth ar draws cenedlaethau
Yn y fideo mae’r cyfranwyr yn rhannu eu dealltwriaeth o anghenion cenedlaethau. Wrth i chi wylio, ystyriwch sut y gallech ddatblygu diwylliant o well dealltwriaeth rhwng cenedlaethau yn eich sefydliad.
Transcript
Efallai y byddwch hefyd am wylio’r fideo dewisol hwn Why GQ is the kind of intelligence we all need | Poornima Luthra | TEDxOdenseWomen lle mae Dr Poornima Lurtha yn esbonio’r tri offeryn i ddatblygu dealltwriaeth am genedlaethau, lleihau mân densiynau, a llunio ymddiriedaeth a sut y gellir gweithredu’r rhain yn eich cyd-destun eich hun.
Transcript
[MUSIC PLAYING]
[MUSIC PLAYING]
Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.