Mynd i'r prif gynnwys

Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol ar gyfer Ysgolion

Croeso i Raglen Gyfoethogi Genedlaethol y Brifysgol Agored yng Nghymru.

 
Dewch o hyd i ffyrdd newydd o ddysgu, datblygu eich talentau a llwyio eich dyfodol gyda'r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol.

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cydweithio ag ysgolion Cymru i ddatblygu'r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder ar gyfer eu dysgu parhaus a'u camau nesaf ar ôl ysgol.

Cewch hyd i bopeth sydd arnoch eich angen er mwyn gwneud y gorau o’r RhGG ar y dudalen yma, felly cofiwch gadw llygad arni am unrhyw ddiweddariadau. 

Hefyd ar gael yn Saesneg. / Also available in English.


 

Llyfrgell fideos y RhGG

 

 

Gwyliwch sgyrsiau a gweithdai y RhGG


Mae’r RhGG yn cynnig cyfres o weithdai digidol a sgyrsiau arbenigol ar ystod eang o wahanol bynciau diddorol. Mae'r holl fideos blaenorol ar gael yn llyfrgell adnoddau y RhGG.

Ewch i lyfrgell adnoddau y RhGG

 

Dysgu ar-lein am ddim

 

 

Dewch i ddysgu rhywbeth newydd nawr


Cewch ddigon o ysbrydoliaeth gyda’r amrywiaeth o gyrsiau am ddim a argymhellir a’r adnoddau eraill isod gan OpenLearn. Mae adnoddau OpenLearn am ddim lle gallwch astudio pryd y mynnwch ac wrth eich pwysau. Mynnwch gopi o ganllaw dysgu y RhGG am gymorth i ddechrau arni. Efallai y byddai o fudd i chi gadw cofnod o’r hyn a ddysgir a myfyrio ar hynny wrth i chi fynd yn eich blaen - mae templedi ar gael gennym i’ch cynorthwyo.

Cofiwch greu cyfrif er mwyn cael y gorau allan o OpenLearn.

Nodwch mai dewis cyfyngedig o adnoddau OpenLearn sydd ar gael ar hyn bryd drwy gyfrwng y Gymraeg, cyfeirir at y rhai o fewn pob adran.

Cliciwch er mwyn ehangu pob adran:

Newydd i OpenLearn

Yn y newyddion

Sgiliau digidol

Dinasyddiaeth

Yr Amgylchedd a chynaliadwyedd

Addysg bersonol a chymdeithasol

Cymorth wrth astudio

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Pynciau galwedigaethol

Iechyd, chwaraeon a seicoleg

Hanes a’r Celfyddydau

Ieithoedd

Gwyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg

Cyrsiau sy'n 10 awr neu lai

Adnoddau Cymraeg yn unig

Adnoddau y RhGG

Gwnewch y mwyaf o'ch astudiaeth annibynnol


Defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael i’w lawrlwytho isod er mwyn dysgu mwy am y RhGG a chael cymorth wrth astudio.

 

Cymorth ac arweiniad OpenLearn


Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin OpenLearn yn yr adran cymorth.

Mae'r fideos canllaw canlynol hefyd ar gael i ddysgwyr NEP:

Astudio gyda'r Brifysgol Agored


Astudiwch radd yn rhan amser gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru


A ydych chi wedi cwblhau eich astudiaethau yng Nghymru ac yn ystyried eich cam nesaf? Archwiliwch hyblygrwydd gradd rhan amser gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, a ffitiwch eich astudiaethau o amgylch eich bywyd chi, fel eich bod yn medru ennill cyflog wrth ichi ddysgu.Rydym yn cynnig cyrsiau o safon i unrhyw un sydd â'r awydd a'r cymhelliant i lunio eu dyfodol, waeth beth fo'u hoedran, cefndir neu incwm. Astudiwch gwrs rhan amser gyda'r arbenigwyr mewn dysgu o bell.

* Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?