Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Darganfod eich 'Pam'

For those who hold a leadership position, creating an environment in which the people in your charge feel like they are a part of something bigger than themselves is your responsibility as a leader.

(Sinek et al. 2017)

Mae bod yn arweinydd neu'n rheolwr yn heriol, yn enwedig sicrhau bod ein timau, adrannau, neu sefydliadau yn deall y genhadaeth maent yn gweithio tuag ati a'u diben mewn sefydliad.

Nid yw Simon Sinek yn cymryd arno ei fod wedi dyfeisio gofyn 'pam', ef a'i cyfundrefnodd pan sylweddolodd fod cwmnïau, sefydliadau, a phobl sydd â chefndiroedd a dibenion cyffelyb yn perfformio mor wahanol; dim ond rhai sy'n herio'r cyfartaledd gyda mwy o lwyddiant.

Mae bod yn ymwybodol o'ch 'Pam' yr un mor bwysig ar lefel swyddogaeth, tîm neu brosiect, a gall fod yn arbennig o bwerus os yw 'Pam' eich prosiect yn cefnogi'n uniongyrchol 'Pam' y sefydliad. Galwa Sinek (2011) hyn yn 'Nested WHY'.

Gall fod yn fan cychwyn defnyddiol cyn dechrau ar y gwaith o gynllunio dyfodol, i sicrhau bod y rheini sydd ynghlwm yn deall y 'Pam' sefydliadol, ond hefyd y 'pam' ar gyfer y cynllunio dyfodol yr ydych chi'n bwriadu ei wneud. Er mwyn helpu i roi bywyd i'r broses hon, rydym am eich arwain drwy'r camau ar gyfer cynnal gweithdy i ddarganfod eich 'Pam'.

Dod o hyd i'r diben sylfaenol

Gall dod o hyd i'r 'pam go iawn' fod yn heriol, ond os ofynnwch chi'r cwestiwn o leiaf pum gwaith, dylech allu cyrraedd y diben sylfaenol.

Gellir arwain sefydliad, tîm neu unigolyn drwy daith i ddarganfod eu 'Pam' drwy ddilyn proses tri cham syml, yn ôl Sinek et al. (2017). Eglurir hyn yn y ffigwr a'r tabl isod:

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 12 Beth yw eich 'Pam?' – proses tri cham
Tabl 3 Beth yw eich 'Pam?' – proses tri cham
Cam Gweithred
Cam 1 – Casglu straeon a'u rhannu. Myfyriwch ar eich gorffennol i ddod o hyd i straeon ystyrlon, yn seiliedig ar emosiynau i helpu i'ch cysylltu â'ch 'Pam', neu ddod o hyd iddo.
Cam 2 – Adnabod eich themâu. Dechreuwch adnabod themâu sy'n codi yn eich straeon er mwyn dwyn ynghyd eich 'Pam' yn rhywbeth cydlynol.
Cam 3 – Drafftio a mireinio'ch datganiad 'Pam' Ysgrifennwch un frawddeg syml ac eglur, y gellir gweithredu arni, yn canolbwyntio ar sut ydych chi'n cyfrannu at eraill, a'r hyn mae Sinek yn ei alw'n 'bytholwyrdd' (yn berthnasol i bopeth a wnewch).

Er y gallwch wneud hyn fel unigolyn, drwy wahodd eraill i'r sgwrs, gallwch ystyried eich 'Pam' drwy lensys gwahanol, a'ch helpu chi i'w ddiffinio'n fwy effeithiol. Gellir gwneud hyn mewn gweithdy. Wrth i chi ddarllen drwy'r dull awgrymedig canlynol i gynnal y gweithdy, ystyriwch sut allwch chi ddefnyddio hyn i ddarganfod eich 'Pam' gyda'ch tîm neu'ch sefydliad. Dylai'r allbwn o'r gweithgaredd hwn roi cipolwg gwerthfawr i chi a dealltwriaeth well o'ch 'Pam'. Yna, gallwch ddefnyddio hyn i ddatblygu allbynnau yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt, megis adroddiadau neu gynigion prosiectau/rhaglenni.