Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Dulliau ar gyfer Cynllunio'r Dyfodol

Ar ôl i chi gael dealltwriaeth o'r broblem y mae angen i chi ei datrys, y cam nesaf yw datrys y prif heriau. Mae hyn wrth wraidd cynllunio ar gyfer y dyfodol. Caiff opsiynau eu harchwilio, a datrysiadau posibl eu profi gan ddefnyddio dulliau i herio ac arwain eich archwiliad. Yn gyntaf, mae angen i chi fod yn agored i'r cysyniad o'r 'Gallu i Greu'.

Yn erthygl Tom Cheesewright, dyfodolwr cymwys, The art of probable, the possible and the desirable, [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] noda fod y gallu i greu yn golygu 'cyflawni'r hyn y gallwn (posibl), yn hytrach na'r hyn yr ydym ei eisiau (yn aml yn amhosibl) (Cheesewright, dim dyddiad)’, ond awgryma Paul Mahoney yn ei erthygl, The Art of Possible, y dylid ei ystyried yn adnodd ar gyfer symud ymlaen gyda syniadau mawr ac eofn, yn ogystal â'r syniadau bach ac arloesol. (Mahony, 2021)

Wrth i chi ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, bydd ystyried beth sy'n bosibl ac yn amhosibl, yn aml yn arwain at syniadau sy'n darparu'r datrysiad, neu'n galluogi'ch sefydliad i arloesi ac esblygu mewn ffyrdd efallai na wnaethant eu hystyried ar ddechrau'r broses.

Gweithgaredd 13 Newid syml

Mae rhaglen waith 'Y Gallu i Greu’ (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, dim dyddiad), yn canolbwyntio ar sut allai cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill ddechrau canolbwyntio ar y newidiadau hirdymor a fydd yn gwella llesiant cymunedau ledled Cymru, a dechrau eu taith i fodloni nodau llesiant y Ddeddf.

Un o allbynnau'r rhaglen hon oedd creu cronfa adnoddau o 'Newid Syml'. Mae'r rhain yn bwysig oherwydd, yn aml, newidiadau syml sy'n cynorthwyo i ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer problemau mwy cymhleth y mae angen i chi eu datrys, ond, yn aml, y newidiadau bychain y gallwch eu gwneud sy'n cael yr effaith fwyaf ar y rheini o fewn eich sefydliad.

Treuliwch amser yn archwilio rhai o adnoddau 'Newid Syml' (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, dim dyddiad), i ddechrau casglu syniadau a allai eich helpu chi yn eich dull o ddatrys problemau.

Newid Syml – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Darllen pellach

Os ydych yn gorff cyhoeddus wedi eich lleoli yng Nghymru, efallai yr hoffech ddefnyddio'r adnoddau canlynol i sefydlu cysylltiadau eich mentrau newid (neu brosiectau) i saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol2015 (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, dim dyddiad):

Dewis dull ar gyfer cynllunio

Wrth ystyried opsiynau i'w datblygu i ddatrys problemau, mae nifer o ddulliau i'ch helpu chi. Mae rhai yn helpu ar lefel uchel i fframio'ch ffordd o feddwl, ac eraill yn eich helpu chi i blymio'n ddyfnach i'r manylion.

Os ydych yn anghyfarwydd â chynllunio, yn aml mae'n ddefnyddiol cadw at un dull, ond wrth i chi ddod yn fwy cyfarwydd a phrofiadol, bydd y rheini sydd ynghlwm â chynllunio dyfodol yn aml yn cyfuno dulliau gan dynnu ar yr elfennau sy'n gweithio orau ar gyfer y broblem maent yn ceisio ei datrys, neu'r cyd-destun maent yn gweithio oddi mewn iddo.

Mae'r adran hon fymryn yn wahanol i weddill y cwrs, wrth i ni archwilio'r tri dull y gallwch eu defnyddio i gynorthwyo gyda chynllunio dyfodol a datrys problemau. Oherwydd hyd y cynnwys sydd i'w gyflwyno ac i ddarparu arweiniad ar gyfer y rhain, efallai yr hoffech ganolbwyntio'n fanwl ar un ar y tro yn unig wrth i chi astudio'r cwrs hwn, a dychwelyd at y gweddill y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd. Wrth i chi weithio drwy'r adran, ystyriwch y 'Fframwaith ffyrdd hybrid o weithio: cynaliadwyedd cyd-destunol' y gwnaethom ei gyflwyno ar ddechrau'r cwrs.