Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gweithio hybrid: Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Cyflwyniad

Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn allweddol i unrhyw sefydliad i ffynnu, llwyddo a chyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer eich rhanddeiliaid a'ch cwsmeriaid, neu fyfyrwyr os ydych yn sefydliad addysg uwch.

Mae sefydliadau yn esblygu drwy'r amser ac mae cylch cynllunio parhaus yn mynd rhagddo o ddiweddaru dogfennau strategol, cynlluniau busnes unedau ac ymateb i anghenion gweithredol. Hyd yn oed cyn y pandemig COVID-19, a oedd yn golygu cynllunio'n gyflym i ymateb, roedd angen i sefydliadau ganolbwyntio ar gynllunio dyfodol a datblygu dealltwriaeth a sgiliau eu gweithlu.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn 'Gweithredu heddiw am well yfory ac yn anelu at greu 'newid cadarnhaol, parhaus i genedlaethau heddiw ac yfory' (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol dros Gymru, dim dyddiad).

Fel rhan o'r cwrss hwn, edrychir ar gynllunio o bersbectif dynol, a thynnir ar adnoddau'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'ch cyflwyno i ddulliau 'cydnabyddedig'. Bydd y methodolegau hyn yn eich helpu chi i ddeall anghenion eich sefydliad i ddatblygu ei ffyrdd o weithio, yn enwedig wrth weithio hybrid a thrawsnewid digidol. Mae'n rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol ac mae wedi'i ddylunio i roi'r cyfle i chi adolygu'r amgylchedd a'r cyd-destun yr ydych chi, eich tîm, a'ch sefydliad yn gweithio ynddo.

Er bod cynllunio dyfodol yn aml yn canolbwyntio ar arloesedd, bydd y cwrs hwn yn eich annog chi i fyfyrio ar ba un ai a yw dull eich sefydliad yn addas at y diben wrth i chi archwilio dulliau gwahanol ar gyfer cynllunio gyda rhagweledigaeth, gwneud synnwyr o sefyllfaoedd, gwella'n barhaus ffyrdd o weithio, a rheoli newid. Byddwch yn datblygu strategaeth i ddefnyddio un model fframwaith neu gyfuniad o fodelau gan ystyried elfennau o strategaethau busnes, gwerthoedd a diwylliant yn y gweithle, llesiant a chynaliadwyedd yn ogystal â'r sgiliau digidol a galluoedd sydd eu hangen arnoch i fodloni'ch amcanion.

Nid yw'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddeall a datblygu strategaeth sefydliadol. Yn hytrach, mae'n canolbwyntio ar sut allwch chi helpu i gyflawni canlyniadau dymunol strategaeth drwy ganolbwyntio ar gynllunio, mewn cysylltiad ag anghenion gweithredol a swyddogaethol.