6 Datblygu opsiynau – dull o feddwl systemaidd
Ar ôl dewis a defnyddio'ch dull dewisol ar gyfer cynllunio dyfodol ac ar ôl dechrau adnabod opsiynau posibl, efallai eich bod wedi sylwi eu bod yn cyfeirio'n aml at dynnu ar feddwl systemaidd i ddatblygu opsiynau ymhellach. Meddwl systemaidd yw un o'r adnoddau, ond ceir ei ddefnyddio'n aml gan y rhan fwyaf o sefydliadau.
Systems thinking enables you to grasp and manage situations of complexity and uncertainty in which there are no simple answers. It is a way of learning your way to effective action by looking at connected wholes rather than separate parts.
Gweithgaredd 22 Beth yw ‘Meddwl systemaidd’?
Darllenwch yr erthygl OpenLearn isod, a gwrandewch ar y ffeil sain oddi mewn iddi, a myfyriwch ar sut allai meddwl systemaidd eich helpu chi i ddatblygu'ch opsiynau ymhellach.
Systems explained by Peter Checkland [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Y Brifysgol Agored, dim dyddiad)
Efallai yr hoffech wneud nodiadau yn y blwch isod.
Mae adnoddau meddwl systemaidd yn eich helpu chi drwy weld y wybodaeth a beth all fod yn bosibl. Maent yn eich caniatáu chi i rannu a chydweithio ar syniadau yn gyflym a darparu ffordd wahanol o feddwl. Wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn, defnyddiol yw cofio nad chi sy'n berchen ar syniad ac y gall unrhyw un addasu a newid eich syniadau, fel eich bod yn uchafu'r cyfleoedd ar gyfer deall problem a ffyrdd newydd o weithio.