Cam 3: Drafftio a mireinio'ch datganiad 'Pam'
Y cam olaf ar gyfer darganfod eich 'Pam' yw cytuno a'i fireinio. Mae hyn yn canolbwyntio ar feddwl am y cyfraniad sydd ei angen i alluogi pob un mewn sefydliad (mewnol neu allanol) i lwyddo.
Darganfod
Adolygu sut i gefnogi'r genhadaeth:
- Sut mae eich tîm, a chithau fel unigolyn, yn ychwanegu gwerth?
- Beth allwch chi ei ddatrys, cyflawni, cyfrannu?
- Beth yw eich cryfderau fel tîm ac unigolyn?
- Sut ydych chi'n mesur llwyddiant?
- Beth yw effaith yr hyn yr ydych chi'n ei wneud, ar gyfer myfyrwyr, staff a'r sefydliad?
- Beth yw effaith emosiynol yr hyn yr ydych chi'n ei wneud, ar fyfyrwyr, staff a'r sefydliad?
Beth sydd wedi newid o Gam 1 i Gam 3?
- Pwy sydd yn eich stori nawr?
- Beth all newid i'r bobl yn eich stori o ganlyniad i weithredoedd eich tîm?
- Sut allai effeithio ar y bobl yn y stori, neu'r rheini a oedd yn dyst iddi?
- Beth allwch chi ei wneud yn wahanol?
Sicrhewch fod y rhain yn cael eu nodi fel datganiadau byrion o gyfraniadau, er mwyn cyfeirio'n ôl ar gyfer adrodd yng Ngham 3.
Adolygu a thrafod yr allbynnau:
- Sut mae cyfranogwyr yn teimlo?
- Beth yw'r effaith arnyn nhw?
- Beth arall hoffent ei wybod?
- Beth arall hoffent ei rannu?
- Ai dyma beth oeddent yn ei ddisgwyl?
Adrodd Cam 3
Yna, edrychwch ar yr allbynnau o'r cam casglu a gofynnwch i'r grŵp fabwysiadu ymadrodd byr i grynhoi'r effaith a chreu datganiadau effaith.
Drafftio'r datganiad 'Pam'
Mae'r straeon o Gam 1 yn helpu i gynnal yr ystyr sydd wrth wraidd y datganiadau gweithredu ac effaith. Fel arfer, mae eich drafft datganiad 'Pam' yn gysylltiedig ag un neu ddwy stori o Gam 1.
- Dewiswch y datganiadau o weithredu a'u mapio i'r datganiadau effaith a dewiswch un neu ddau yr ydych chi'n teimlo sy'n cyd-fynd yn gryf â'r 'genhadaeth' ac yna lluniwch ddatganiad 'Pam'ysbrydoledig.
- Yna, adolygwch y datganiad 'Pam' fel grŵp a'i ddiffinio ymhellach os oes angen.
- Dylai hyn eich galluogi chi i greu eich prif ganlyniad ar gyfer y gweithdy – eich drafft 'Pam'.
Rhan olaf Cam 3 yw ystyried eich datganiadau o weithredu unwaith eto, yn seiliedig ar eich datganiad 'Pam' drafft a lluniwch ddatganiadau cyd-destun. Mae'r rhain yn eich helpu chi i newid ffocws ar gyd-destun eich 'Pam' a sut mae'n cysylltu â 'phroblem' yr ydych chi'n credu bod angen i chi ei datrys. Pam ydych chi’n ei wneud?
Er enghraifft, petaech yn canolbwyntio ar 'thema gynhwysiant', gallech gynhyrchu'r datganiadau cyd-destun canlynol:
- Byddwch yn garedig, byddwch yn chwilfrydig, byddwch yn gynhwysol.
Byddwch yn agored ac yn awyddus i ddysgu am eraill, eu cefndiroedd, a'u profiadau bywyd – byddwch yn chwilfrydig a dangoswch ddiddordeb yn y gwahaniaethau rhwng pobl, gan nad oes y fath beth â 'normal'.