Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Adnabod a deall eich 'pam'

Yn y gweithgaredd diwethaf, gofynasom i chi feddwl am 'Pam' all fod angen datrys problem. Efallai fod hyn yn amlwg, ond pa mor aml ydych chi wedi gofyn 'pam' eich bod yn gwneud rhywbeth? Mae'r rhan fwyaf o fentrau yn methu neu ddim yn cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig oherwydd nad oedd lefel briodol o ddealltwriaeth o pam bod angen gwneud rhywbeth, a sut mae'r 'pam' hwnnw yn ymwneud â diben (strategaeth) eich sefydliad. Diben sefydliad ddylai fod yn ysbrydoli'r rheini oddi mewn iddo i weithio ar y cyd i sicrhau bod y sefydliad yn llwyddo.

Os yw strategaeth wedi'i datblygu i symud sefydliad o'r sefyllfa gyfredol i ryw sefyllfa a ragwelir yn y dyfodol, pan gaiff problem ei datrys, manteisir ar gyfle a/neu caiff budd ei wireddu, yna mae'n hollbwysig deall sut beth yw'r sefyllfa yn y dyfodol a pham bod angen i ni gyrraedd yno.

Mae Simon Sinek (2011), awdur a siaradwr ysbrydoledig, yn galw hyn yn 'Pam' ac yn rhoi hwn wrth wraidd ei 'Gylch Euraidd', fel y gwelir yn y ffigwr isod. Yn ei farn ef, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod y 'Sut' a 'Beth' mae sefydliad yn ei wneud, ond nid y 'Pam' o reidrwydd. Yn aml, caiff y 'Pam' ar gyfer sefydliadau ei gynnwys yn eu datganiad o genhadaeth. Mae'r datganiad o genhadaeth yn adlewyrchu'r 'Beth', ac mae'r datganiadau o werthoedd ac amcanion yn disgrifio'r 'Sut'.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 11 ‘Golden Circle’ gan Simon Sinek (2011)

Awgryma Sinek mai wrth feddwl am ddatblygu strategaeth a chynllun, nid yn unig ar lefel sefydliadol, ond hefyd wrth weithio ar broblemau a mentrau, dyma pryd y dylem ddechrau oherwydd heb wybod pam ein bod yn gwneud rhywbeth (ein diben uwch), byddwn yn ei chael hi'n arbennig o anodd denu'r bobl gywir sy'n credu yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac a fydd yn gweithio'n galed tuag at ei gyflawni.

'Y nod' dywed Sinek, 'yw gwneud busnes gyda phawb sydd angen yr hyn sydd gennych chi, y nod yw gwneud busnes gyda phobl sy'n credu yn yr hyn yr ydych yn ei gredu' (Sinek, 2011).

Gweithgaredd 9 Dechrau arni gyda 'Pam'

Timing: 30 munud

Gwyliwch 'Start with Why', y TED Talk gan Simon Sinek, lle mae'n cyflwyno'r cylch euraidd a'r cysyniad 'Pam'. Wrth i chi wylio, meddyliwch am y 'Pam', 'Sut' a 'Beth', a sut allwch chi ddefnyddio'r dull hwn i helpu i sefydlu'ch 'Pam' ar gyfer cynllunio dyfodol?

Gwnewch nodiadau yn y blwch isod er mwyn cyfeirio'n ôl at y rhain ar gyfer gweithgareddau yn ddiweddarach yn y cwrs neu efallai yr hoffech dynnu ar eich Cylch Euraidd eich hun.

Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Fideo 5 Start with Why: How Great Leaders Inspire Action

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

2. Edrychwch ar y dolenni canlynol i weld enghreifftiau o sut mae'r Cylch Euraidd wedi'i ddefnyddio.

Yn yr adran nesaf, byddwn yn ystyried sefydlu'ch 'Pam' ymhellach.