Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Cynllunio Dyfodol a strategaeth sefydliadol

Wrth werthfawrogi tueddiadau byd-eang, mae deall sut mae'r gweithle yn datblygu a meddwl am bosibiliadau ar gyfer y dyfodol yn eich galluogi chi i ehangu'ch persbectif. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ynghlwm â chynllunio dyfodol, bydd y rhan fwyaf o'ch sylw ar ddatrys problemau, arloesi, a chyflawni canlyniadau sydd ynghlwm â strategaeth eich sefydliad.

Yn ôl Davide Sola and Jerome Couturier, mae strategaeth yn golygu 'cyfuniad o weithredoedd (cynllun) cydlynol, creadigol a chynaliadwy wedi'u dylunio i oresgyn un neu fwy o'r prif heriau sy'n creu gwerth' (Sola a Couturier, 2014). Maent yn mynd ymlaen i ddweud bod angen goresgyn y prif heriau hyn gan y gallant fod yn eich atal chi rhag cyflawni'ch 'diben uwch', sef y 'nod yn y pendraw', y rheswm yr ydych chi, eich prosiect, eich tîm, neu'ch busnes yn bodoli.

Wedi pandemig COVID-19, mae sefydliadau wedi gorfod adolygu eu strategaethau, a sut maent fel sefydliad yn datblygu a ffynnu, mewn byd gwleidyddol-gythryblus, a chynyddol ansefydlog ac ansicr yn ariannol, ac economaidd. Mae rhagor o anghydraddoldebau a ffactorau allanol yn gorfodi sefydliadau i ail-feddwl eu modelau gweithredu, eu ffyrdd o weithio, ac ail-ystyried eu gwytnwch o ran pobl, technoleg, prosesau, cadwynau cyflenwi a'r effaith ar y blaned.

Nid yw'n rhwydd cynllunio dyfodol ar gyfer sefydliad oherwydd po bellaf i'r dyfodol ydych chi'n edrych, po fwyaf o ansicrwydd yr ydych chi'n ei weld. Rhowch hyn ochr yn ochr â'r ffactorau allanol sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth neu'ch dylanwad, ac mae'r gwaith cynllunio yn hyd yn oed yn fwy heriol. Mae hanfodion byd-eang, megis Nodau Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, a mentrau cenedlaethol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cyflwyno ffactorau ychwanegol (a chyfyngiadau posibl) ar gyfer newid.