3.5 Datblygu'r 'Sut'
Ar ôl i chi sefydlu'ch 'Pam' ac mae gennych syniad o'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yr ydych am ei archwilio, mae'r 'Sut' a'r 'Pam' yn dod nesaf, ac ar gyfer hynny mae angen i ni ddatblygu strategaeth a dull ar gyfer cynllunio.
Yn ôl Sola a Couturier (2014), mae pum cam yn y broses datblygu strategaeth y gellir eu cymhwyso ar gyfer cynllunio, ac un peth a fydd angen i chi ei ystyried drwy'r amser – diwylliant sefydliadol (yr hyn maen nhw'n ei alw'n 'Llaw Anweladwy') – a all fod yn anodd ei reoli:
Gellir gwneud hyn drwy:
- ddadansoddi'r model busnes presennol
- gwerthfawrogi cynigiad
- gweithgareddau allweddol
- adnoddau a galluoedd
- gwerthfawrogi rhwydwaith (partneriaethau, cadwyn gyflenwi)
- gwahaniaethiad.
Cam 1: Asesu'r sefyllfa
Awgryma Sola a Couturier (2014) y dylech hefyd ystyried eich sefyllfa mewn perthynas â'ch cyfoedion yn y sector, ffactorau macro-amgylcheddol (mae dadansoddiad PESTLE yn ddefnyddiol yma – gweler Ffigwr 15), a ffactorau a thueddiadau sy'n gysylltiedig â'r sector/diwydiant (efallai y byddai'n syniad i chi ddefnyddio model pum grym Michael Porter ar gyfer hwn – gweler Ffigwr 16).
Cam 2: Adnabod y prif heriau a sefydlu'r nodau
Gall defnyddio dadansoddiad SWOT (gweler Tabl 5) fod yn ddefnyddiol ond dylid dilysu effeithiau cadarnhaol a negyddol adnabyddedig yn erbyn eu hachos.
Ffactorau mewnol | Ffactorau allanol |
---|---|
Cryfderau
|
Cyfleoedd
|
Gwendidau
|
Bygythiadau
|
I leihau nifer y prif heriau, gallwch ofyn pa un ai a fydd eu goresgyn yn creu gwerth ar gyfer y sefydliad (neu ddinistrio gwerth os na ymdrinnir â nhw). Gallwch ofyn pa un ai a oes gennych yr adnoddau neu'r gallu cywir i fynd i'r afael â'r brif her, ac yn olaf, a fydd diwylliant y sefydliad yn cynorthwyo i'w oresgyn, neu a fydd yn ei rwystro?
Gosod amcanion strategol:
Yna, mae angen i chi osod yr amcanion strategol – mae angen i'r rhain:
- gael gofynion amser clir (2–5 mlynedd)
- fod yn rhwydd eu deall
- fod yn heriol ond cyraeddadwy
- gael effaith glir ar fantais gystadleuol neu gyflawni'ch 'Pam'.
Ar ôl adnabod y rhain, mae angen datblygu canllawiau strategol ar gyfer bob un.
Cam 3: Datrys y prif heriau
Nid yw hyn byth yn rhwydd gan eu bod, yn aml, yn ymwneud ag elfennau cymdeithasol/dynol, economaidd, cyfreithiol a thechnolegol. Yn aml, y peth gorau i'w wneud yw lleihau cymhlethdod y prif heriau, drwy ei rannu'n brif gyfansoddion a deall eu pwysigrwydd. Pan fydd y cymhlethdod wedi'i leihau, gellir adnabod opsiynau datrys.
Ar ôl adnabod yr opsiynau datrys, bydd angen i chi ddewis yr opsiwn posibl gorau. Bydd angen i chi asesu pa un fydd yn cael yr effaith fwyaf ar fynd i'r afael â'r brif her, y gost/budd a pha bryd y gellir eu rhoi ar waith.
Cam 4: Lleddfu ansicrwydd
Mae ansicrwydd mewn strategaeth yn bodoli mewn tair ffordd:
- Ansicrwydd o ran creu gwerth, pa un ai a yw'r buddion a gyflawnir yn gorbwyso'r buddsoddiad.
- Ansicrwydd ynghylch y gallu i ehangu'r fenter a chynnal y lefelau enillion.
- Ansicrwydd ynghylch cynaliadwyedd y camau gweithredu mae'r sefydliad wedi dewis eu gweithredu.
Awgryma Sola a Couturier (2014) y dylid profi'r opsiynau gan ddefnyddio'r dull 'mân brofion' i leddfu ansicrwydd. Mae'r dull yn cynnwys pedwar cam:
- Datgan y tybiaethau sylfaenol ar dri dimensiwn – gwerth, twf, a chynaliadwyedd.
- Profi tybiaethau ynghylch gwerth.
- Profi tybiaethau ynghylch twf.
- Profi tybiaethau ynghylch cynaliadwyedd.
Cam 5: Rheoli gweithredoedd
Dyma pryd y gallwn weithredu'r datrysiadau wedi'u profi a chyflawni'r canlyniadau yr ydym yn eu disgwyl. Mae gweithredu'ch strategaeth yn ymwneud â chamau gweithredu cydlynol ac ategol ac, yn ôl Sola a Couturier (2014), gellir olrhain y rhan fwyaf o fethiannau strategaeth 'i faterion sy'n tanseilio neu'n atal y cydlyniad hwn'.
Dyfynnant ddiwylliant, cyfathrebu, a strwythur corfforaethol ymhlith y materion hyn. Maent hefyd yn dyfynnu dau reswm arall dros fethu: pobl ddim yn deall y 'Pam' a 'Beth' ar gyfer newid, a hyd yn oed os ydynt, nid ydynt yn gwybod 'Sut' gan eu bod yn methu â gweld y cysylltiad rhwng strategaeth a newid ymarferol (Sola a Couturier, 2014).