1 Posibiliadau'r dyfodol
I ddechrau ar y cwrs hwn, hoffem wyro oddi wrth feddwl yn benodol am amgylcheddau mewnol ac allanol eich sefydliadau eich hun. Yn hytrach, hoffem i chi ystyried beth allai'r dyfodol fod a'ch annog chi i fod yn agored i bosibiliadau ac ansicrwydd. Nod yr adran gyntaf yw eich galluogi chi i deimlo'n gyfforddus gyda'r ffaith y gallai fod gennych gwestiynau yr ydych chi'n credu y dylech wybod yr ateb iddynt, ond nad oes gennych mohonynt. Yn aml, mae cynllunio dyfodol yn cynnwys y pethau anhysbys a syniadau a all fod yn amhosibl. Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i'ch helpu chi i reoli'r pethau anhysbys yn fwy effeithiol ac mae'r adrannau diweddarach yn dod yn fwy strwythuredig wrth i ni archwilio cynllunio dyfodol yn fanwl.
Gweithgaredd 1 Myfyrio ar y gorffennol a meddwl am y dyfodol
Gwyliwch y fideo 'Sultan the Pit Pony' isod. Myfyriwch ar y gorffennol a meddyliwch am y dyfodol, o bersbectif personol a sefydliadol.
Yna, gwnewch nodyn o sut ydych chi'n dychmygu'r dyfodol.
BBC Wales - The Slate, Sultan the Pit Pony [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]Fideo 1 Sultan y Cob
Ateb
Efallai fod gofyn i chi wylio fideo am gerflun er cof am gobiau a phyllau glo wedi'ch taro chi yn go rhyfedd. Dichon fod nifer ohonom yn rhy ifanc i gofio graddfa'r diwydiant glo ym Mhrydain, gan fod mewnforio o wledydd tramor wedi dod yn fwy cost effeithlon yn y 1970au, gan achosi i'r diwydiant mwyngloddio glo ddirywio'n gyflym. Yn ei anterth yn yr 1920-30au, byddai'r rheini a oedd ynghlwm â'r diwydiant yn ei chael hi'n anodd meddwl bod hon yn ffynhonnell ynni yr ydym yn ceisio'n weithredol ei hatal rhag cael ei defnyddio erbyn hyn. Wrth i ni ddod yn ymwybodol o'r effaith y mae'n ei chael ar ein hinsawdd, mae'r sylw ar ffynonellau ynni yn yr hirdymor yn rhan allweddol o gynllunio dyfodol, i ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio a sicrhau ein bod yn bodloni'r targedau hinsawdd sero net.
Er efallai nad ydych chi'n uniongyrchol ynghlwm â dod o hyd i'r datrysiad ar gyfer adnoddau ynni glanach, mae eich gweledigaeth o'r dyfodol yn dibynnu ar ynni ar ryw ffurf neu'i gilydd. Diben y fideo oedd dargyfeirio'ch ffordd o feddwl, o'ch dealltwriaeth eich hun o'r byd a thechnoleg. Yn aml, pan ofynnir i chi ddychmygu'r dyfodol, y peth cyntaf yr ydych yn siarad amdano yw technoleg. Yn y fideo, pwysleisiwyd effaith byd sy'n newid ar fodau dynol ac fel cynllunwyr dyfodol, mae gofyn i chi gydbwyso anghenion sefydliadol ac anghenion pobl. Mae hyn yn golygu bod angen i chi fod yn agored i gydweithio gydag eraill a thynnu ar enghreifftiau o ddiwydiannau a meysydd gwaith eraill. Mae hefyd yn gofyn i chi ddod yn gyfforddus gyda rheoli ansicrwydd a dychmygu'r anhysbys a'r amhosibl efallai, er mwyn datblygu'ch sgiliau gwneud synnwyr eich hun a chynorthwyo gydag esblygiad eich sefydliad.
Mae posibiliadau'r byd yn y dyfodol yn ddi-ddiwedd, ac fel sefydliad yn rhagweld eich rôl eich hun yn y dyfodol hwnnw a sut ydych yn parhau i lwyddo, gall hynny fod yn gyffrous neu'n ddychrynllyd. I rai, gall hyn deimlo'n llethol, oherwydd ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau, mae eich sylw yn aml ar yr anghenion uniongyrchol sydd eu hangen arnoch i oroesi a gweithredu. Gall eraill fod yn ddigon ffodus o gael timau Dyfodol ac Arloesiadau, neu Ymchwil a Datblygu, ond mae nifer yn dibynnu ar wybodaeth, profiad a brwdfrydedd y rheini yn y gweithlu sydd â'r dasg o gynllunio, gweithredu a chynnal newid.
Yn y gweithgaredd blaenorol, gwnaethoch ystyried y dyfodol. Rydym nawr am archwilio'r syniad o feddylfryd dyfodolwyr.
Gweithgaredd 2 A oes gennych chi feddylfryd dyfodolwr?
Yn y fideo isod, mae Jacob Morgan, awdur sydd wedi ennill pedair gwobr, siaradwr a dyfodolwr sydd wedi cael hyfforddiant proffesiynol yn mynd ati i egluro'r meddylfryd dyfodolwr.
Wrth i chi wylio'r fideo, ystyriwch sut ydych chi'n meddwl am y dyfodol ac wrth weithio ar dasgau, ystyriwch sut ydych chi'n ymdrin â'r rhain – ydych chi'n meddwl am bosibiliadau gwahanol? Yna, atebwch y pôl.

Transcript: Fideo 2 Sgiliau dyfodolwr
A ydych chi'n credu bod gennych feddylfryd dyfodolwr?
Ateb
Mae meddu ar feddylfryd dyfodolwr yn tynnu ar nifer o sgiliau a dulliau yr ydych chi eisoes yn eu defnyddio o bosibl, ond efallai nad ydych wedi ystyried eich bod yn cynllunio dyfodol yn ddyddiol wrth i chi ymdrin â thasgau a phenderfyniadau bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys y weithred o ystyried posibiliadau, archwilio opsiynau a gofyn cwestiynau megis y rheini a ofynnodd Jacob Morgan yn y fideo:
- Pam all hyn ddigwydd?
- Beth arall all ddigwydd?
- Pa ffactorau all ddylanwadu ef i ddigwydd/peidio â digwydd?
- Beth yw dyfodol y gwaith yr ydych CHI eisiau ei weld yn digwydd?