Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cam 5: Adolygu'r cyfleoedd a'r heriau

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 27 Datblygiad graddol senarios o ynysoedd dros amser

Yn rhan olaf y gweithdy, treuliwch amser yn adolygu'ch ynys(oedd) ac ystyriwch y goblygiadau, y cyfleoedd, a'r heriau. Petai'r dyfodol yn digwydd, beth fyddai'r penderfyniadau doethaf i ni eu gwneud heddiw? Sut fyddai eich penderfyniadau, eich polisïau a'ch gwerthoedd cyfredol yn cael eu beirniadu gan breswylwyr yr ynys honno yn y dyfodol? A oes dewisiadau y gallwn eu gwneud sy'n wydn ar draws nifer o bosibiliadau ar gyfer y dyfodol?

Trafodwch y profiad gyda'r rheini a fynychodd. Defnyddiol yw trefnu sesiwn ddilynol, oherwydd ar ôl y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn aml yn myfyrio ar yr hyn maent wedi'i ddysgu ac yn cyfnerthu eu ffordd o feddwl. Mae sesiwn ddilynol yn rhoi lle i gyfranogwyr rannu eu cyfraniad sydd wedi'i ail-ystyried, efallai ail-wneud eu lluniau ac efallai y bydd ganddynt ragor o safbwyntiau i'w trafod.

Adolygwch y cyfleoedd a'r heriau ymhellach ac yna datblygwch eich opsiynau at y dibenion gofynnol. Bydd y dull ar gyfer datblygu opsiynau a chynrychioli'r rhain i eraill yn dibynnu ar ddiben eich gweithdy ac anghenion eich sefydliad.