Cam 4 Rhan A: Ansicrwydd
Yna gofynnir i gyfranogwyr adnabod yr ansicrwydd sy'n llywio ac yn annog penderfyniadau a wneir gan yr endidau ar yr ynys. Pa ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol sy'n llywio penderfyniadau gweithredwyr eraill ar yr ynys? Gallai ffactorau o'r fath effeithio ar un gweithredwr, neu nifer ohonynt. Yna, mae cyfranogwyr yn ystyried y ffactorau neu'r grymoedd nad oes modd eu rhagweld yn llwyr ymlaen llaw, ac a all arwain at fap yr ynys yn cael ei ail-greu yn y dyfodol.
Beth:
- ydych chi'n teimlo fwyaf ansicr yn ei gylch?
- sydd â'r effaith fwyaf?
- sy'n eich annog i feddwl y tu hwnt i fusnes fel arfer?
- nad ydych chi'n meddwl amdano mewn gwirionedd?
- allai newid eich ffocws/sut ydych chi'n mynd ati o ddydd i ddydd, petai'n newid?
- yn cynnig persbectif gwahanol?
Ystyriwch eich grymoedd, yr amgylchedd allanol a mewnol:
- Pa rymoedd sydd fwyaf ansicr neu anghyfforddus?
- Pa rymoedd nad ydych chi'n talu sylw iddynt?
- Pa rymoedd nad oes modd eu hadnabod ymlaen llaw?
- Sut le fyddai'r ynys petai'r grymoedd hyn yn amlygu eu hunain?
Sut caiff ecosystem y sawl sy'n gwneud eich penderfyniadau eu hail-lywio?