Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Gwneud synnwyr ar gyfer cynllunio dyfodol

Fel rhan o Weithgaredd 10, gwnaethoch gynllunio gweithdy i ddarganfod eich Pam, a dechreuoch y broses o wneud synnwyr. Yn Adran 1.4, gwnaethoch ystyried rai tueddiadau a ragwelir o fyd gwahanol iawn wedi'r pandemig i'r byd cyn 2020. Waeth lle mae'r tueddiadau hyn yn arwain, er mwyn i ni barhau i gyflawni ein cenhadaeth bersonol, y prosiect, y tîm a sefydliadol, mae angen i ni ymateb yn unol â hynny.

Mae ymateb mewn cyfnod o ansicrwydd yn gymhleth, yn enwedig pan mae pobl ynghlwm â hynny. Gyda diolch, mae adnoddau, fframweithiau a chysyniadau ar gael i'n helpu ni drwy'r cymhlethdod hwn.

Un cysyniad o'r fath sy'n datblygu ar waith eraill yw 'gwneud synnwyr' gan Karl Weick ym 1995. Mae gwneud synnwyr yn ymwneud â throi amgylchiadau yn sefyllfa y deallir ar bapur yn unig ac sy'n gwasanaethu fel hwb ar gyfer gweithredu (Weick et al., 2005).

Mae gwneud synnwyr yn ein helpu ni i ddeall sefyllfa, sut mae elfennau'r sefyllfa yn gysylltiedig (boed yn dynn neu'n fwy rhydd), a sut a pham mae pobl yn ymddwyn ynddo yn y modd y gwnânt. Mae gwneud synnwyr yn arbennig o ddefnyddiol mewn sefyllfa gymhleth pan nad yw rhai agweddau yn amlwg. Mae ystyried budd personol y rheini sydd wedi'u heffeithio gan newid wrth gynllunio yn hollbwysig i weithredu'n llwyddiannus, gan y gall 'buddsoddiad personol' mewn newid fod yn ffynhonnell cymhelliant gwych.

Mae gwneud synnwyr yn arbennig o ddefnyddiol o ran deall sut all pobl a thimau ymgysylltu a threfnu wedi argyfwng neu newid.

Diffinia Dave Snowden, sylfaenydd y fframwaith Cynefin [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] y term 'gwneud synnwyr' yn ei fyfyrdodau 'What is Sense-making?’:. 'Sut ydym yn gwneud synnwyr o'r byd er mwyn i ni allu gweithredu ynddo' (Snowden, 2008). Yn y fideo isod, eglura sut ellir defnyddio gwneud synnwyr ar gyfer archwilio problemau a gwneud penderfyniadau.

Download this video clip.Video player: Fideo 6
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 6 Gwneud synnwyr ar gyfer archwilio problemau a gwneud penderfyniadau
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 11 Sgyrsiau gwneud synnwyr

Timing: 15 munud

Gan dynnu ar y dealltwriaethau a rannodd Dave Snowden yn y fideo uchod, gwyliwch Fideo 7 isod, ‘Sensemaking: using conversations to make a difference every day’. Yn yr ail fideo, eglura Alan Arnett sut all gwneud synnwyr ein symud ni ymlaen, i ateb y tri chwestiwn canlynol:

  1. Beth ydym ni'n ei ddatrys?
  2. I le'r ydym ni'n mynd?
  3. Sut allwn ni gyrraedd yno?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Fideo 7 Gwneud synnwyr: defnyddio sgyrsiau i wneud gwahaniaeth bob dydd

Wrth i chi wylio'r fideo, gwnewch nodiadau yn y blwch isod ac ystyriwch:

  • Sut all gwneud synnwyr gynorthwyo gyda deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddatrys?
  • Sut all helpu gyda dull sy'n canolbwyntio ar fodau dynol i wneud synnwyr o broblemau, a deall i le allwch chi fod yn mynd?
  • Sut allai arwain at sgyrsiau gwell, i ddeall sut allwch chi gyrraedd yno?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Mae'r iaith a ddefnyddiwn yn rhan allweddol o gynorthwyo gyda gwneud synnwyr. Mae sut ydym yn cael sgyrsiau a'r iaith yr ydym yn ei defnyddio yn ein helpu ni ac eraill i gyrraedd dealltwriaeth gyffredin ac mae'n ein galluogi ni i archwilio'r byd mewn ffyrdd gwahanol, yn enwedig mewn cyfnodau ansicr.

Yn fideo 6, pwysleisia Dave Snowden:

'Most human beings communicate novel ideas through metaphors and stories, and that's still the most successful way of doing it.' (Snowden, 2022)

Mae adrodd straeon yn adnodd pwerus ar gyfer ymgysylltu eraill a helpu pobl i ddeall problemau a'r byd, drwy eu helpu i weld yr hyn sy'n bosibl mewn ffordd y gellir uniaethu â hi ac sy'n ystyrlon iddyn nhw. Gall hyn hefyd gynorthwyo gydag annog pobl i sgwrsio gyda'i gilydd, fel y pwysleisiodd Alan Arnett yn y fideo, gall fod yn her cael sgyrsiau gwell er mwyn gwneud synnwyr o'n byd.