Cam 1: Casglu straeon a'u rhannu
Mae darganfod eich 'Pam' yn gofyn i chi wrando'n weithredol, gan ganiatáu i'r rheini yn yr ystafell rannu eu profiadau a'u safbwyntiau, a pheidio â thorri ar eu traws – gadewch iddynt ddweud eu dweud. Anogwch eich cyfranogwyr i wneud nodiadau wrth i eraill siarad ac aros iddynt gyrraedd diwedd yr hyn maent eisiau ei ddweud yn naturiol.
Gall fod yn ddefnyddiol dechrau drwy dorri'r ias, sy'n gysylltiedig â darganfod eich 'Pam'. Mae hyn yn gymorth i wneud cyfranogwyr deimlo'n gyfforddus a magu gwytnwch i gymryd rhan yn llawn.
Er enghraifft, gallai gweithgaredd: Rannu tri pheth yr oeddech yn ymfalchïo ynddynt mewn perthynas â'r peth diwethaf i chi ei gyflawni. Nodwch y rhain ar bapur bach gludiog. Yna, ewch o gwmpas y grŵp er mwyn iddynt grynhoi ac adnabod themâu cyffredin. Neu gofynnwch i bawb dynnu llun manwl o'u stori ar ddarn o bapur a thrafod eu stori.
Er enghraifft, gallai gweithgaredd: Rannu tri pheth yr oeddech yn ymfalchïo ynddynt mewn perthynas â'r peth diwethaf i chi ei gyflawni. Nodwch y rhain ar bapur bach gludiog. Yna, ewch o gwmpas y grŵp er mwyn iddynt grynhoi ac adnabod themâu cyffredin. Neu gofynnwch i bawb dynnu llun manwl o'u stori ar ddarn o bapur a thrafod eu stori.
Darganfod
Dyma'r amser i ganolbwyntio ar y cwestiynau 'Pam' a chaniatáu i gyfranogwyr rannu eu straeon, gallech ofyn:
Beth yw eich dealltwriaeth o:
- 'genhadaeth' eich sefydliad
- rôl eich tîm o ran cefnogi'r genhadaeth honno
- eich rôl fel unigolyn o ran cyfrannu i'r genhadaeth honno
- yr hyn mae eich defnyddwyr yn y pendraw ei eisiau.
Cefnogi’r genhadaeth:
- Sut mae eich tîm, a chithau fel unigolyn, yn ychwanegu gwerth?
- Beth allwch chi ei ddatrys, cyflawni, cyfrannu?
- Beth yw eich cryfderau fel tîm ac unigolyn?
- Sut ydych chi'n mesur llwyddiant?
- Beth yw effaith yr hyn yr ydych chi'n ei wneud, ar gyfer myfyrwyr, staff a'r sefydliad?
Ydych chi'n cytuno â'r genhadaeth?
- Sut mae eich tîm, a chithau fel unigolyn, yn cyfrannu tuag at y genhadaeth.
- Beth fyddech chi'n ei newid?
- Dyma gwestiwn pwysig, oherwydd drwy herio'r genhadaeth a'ch rôl, gallwch helpu i adnabod meysydd sy'n helpu i ail-ffocysu'ch 'Pam' a chreu meysydd ar gyfer ymchwilio pellach – os nad yw rhywbeth yn iawn – pam?
Dysgwch o'ch methiannau:
Os yw eich gweithdy yn canolbwyntio ar fater penodol, gofynnwch i gyfranogwyr ddychmygu eu bod dwy flynedd yn y dyfodol, a bod y datrysiad a ddewiswyd wedi methu. Gall y dull hwn helpu gydag ail-fframio mater ond meddwl am ganlyniadau posibl yn y dyfodol.
- Sut maent yn teimlo am hyn?
- Beth all achosi methiant?
- Sut ellir ei liniaru?
Casglwch y straeon mewn datganiadau straeon byrion. Gall hyn fod yn rhestr â phwyntiau bwled, yn frawddeg neu'n baragraff, neu'n 'ddelwedd fanwl' gyda phennawd sy'n adlewyrchu ffocws y stori.
Adrodd Cam 1
- Sut mae cyfranogwyr yn teimlo?
- Beth yw'r effaith arnyn nhw?
- Beth arall hoffent ei wybod?
- Beth arall hoffent ei rannu?
- Ai dyma beth oeddent yn ei ddisgwyl?
Dyma'r amser i adolygu'r hyn yr ydych wedi'i archwilio a'r cyfle ar gyfer egluro archwilio ymhellach:
Yna canolbwyntiwch ar y datganiadau o straeon ac edrychwch ar y themâu sy'n codi, a nodwch y rhain ar gyfer Cam 2.