7 Cytuno ar yr opsiwn
Yn ôl Sola a Couturier (2014), mae diwylliant, cyfathrebu, a strwythur corfforaethol ymhlith y materion ynghylch pam mae gweithredu strategaeth yn methu. Maent hefyd yn nodi bod methiant yn aml yn digwydd pan nad yw pobl yn deall y 'Pam' a 'Beth' ar gyfer newid, a hyd yn oed os ydynt, os nad ydynt yn gwybod 'Sut', yna maen nhw'n dal i fethu fel rhanddeiliaid, gan eu bod yn methu â gweld y cysylltiad rhwng strategaeth a newid ymarferol.
Pan fydd gennych opsiynau posibl, mae angen cytuno ar ba un/rhai y dylid eu datblygu er mwyn i randdeiliaid gytuno arnynt. Yn nifer o achosion, efallai y bydd angen rhaglen newid ffurfiol ar opsiynau er mwyn eu hysgogi a'u cynllunio. Gall rhaglen newid ffurfiol gynnwys:
- adnabod rhagor o randdeiliaid, ymgysylltu â nhw a'u rheoli
- datblygu cynllun clir
- cyflawni gohebiaeth amserol a chlir i bawb sydd ynghlwm.
Mae'r agweddau hyn yn hollbwysig er mwyn ennyn cefnogaeth tuag at y fenter o newid, ac ymrwymiad iddi. Ceir rhagor ynghylch rheoli newid yn Hybrid working: change management - OpenLearn - Open University [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]