Cam 6: Adborth a dilyniant
Ar ddiwedd y gweithdy, rhowch gyfle i gyfranogwyr rannu eu profiadau o wneud y gweithdy a sut maent nawr yn teimlo am gynllunio dyfodol.
Dyma gwestiynau a all fod yn ddefnyddiol eu hystyried:
- Sut mae cyfranogwyr yn teimlo?
- Beth yw'r effaith arnyn nhw?
- Beth arall hoffent ei wybod?
- Beth arall hoffent ei rannu?
- Ai dyma beth oeddent yn ei ddisgwyl?
- Beth fydden nhw'n ei newid?
Felly, mae'n bwysig mynd ar drywydd hyn gyda chyfranogwyr i geisio unrhyw eglurhad o'u cyfraniad i'r gweithdy. Ar ôl amser i fyfyrio, a oes unrhyw beth arall y dymunant ei gyfrannu tuag at grynodeb o'r canlyniadau?
Dylai cynllunio dyfodol fod yn broses barhaus o fewn sefydliadau, felly ystyriwch eich dull o gynllunio cylchredau.
Gweithgaredd 18 Cynllunio sesiwn ‘Islands in the Sky’
Lluniwch gynllun byr o sut allech gynnal sesiwn ‘Islands in the Sky’. Beth hoffech ganolbwyntio arno a pha ddulliau allwch chi eu defnyddio?
- Gweithdai o bell neu wyneb yn wyneb?
- Pwy allech chi eu gwahodd i'r gweithdy?
- Pa gwestiynau yr hoffech eu gofyn?
- Sut fyddwch chi'n adolygu'r gweithdy a'r canlyniadau?
Efallai yr hoffech wneud nodiadau yn y blwch isod, a lawrlwytho PowerPoint pecyn cymorth ‘Islands in the Sky’ at y dyfodol pe hoffech gynnal eich gweithdy eich hun.
Lawrlwytho'r pecyn cymorth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Gall ‘Islands in the Sky’ fod yn ddull effeithiol i'ch helpu chi i feddwl am senarios y dyfodol ac ymchwilio i broblemau yn gyflym. Mae wedi'i ddylunio i ganolbwyntio ar ddeall eich amgylchedd a'r gwerth y gallwch ei gynhyrchu oddi mewn i'ch perthnasoedd gweithrediadol er mwyn ennill persbectif newydd.
Yn y fideo, rhanna Dr Matt Finch awgrymiadau ar gyfer defnydd effeithiol o'r dull ‘Islands in the Sky’.
Transcript: Fideo 17 Awgrymiadau ar gyfer defnyddio ‘Islands in the Sky’
Yn yr adran nesaf, cewch gyfle i ystyried astudiaeth achos ar y defnydd o ‘Islands in the Sky’ yn y Brifysgol Agored.