4 Cymhlethdod problemau
Wrth gwrs, bydd cwmpas y strategaeth a'r manylion sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu yn dibynnu ar fath y broblem yr ydych yn ceisio ei datrys a pha mor frys ydych chi'n ceisio ei datrys. Mae angen i rai cynlluniau ymateb yn gyflym i sefyllfa ac mae gan eraill yr amser i gynllunio ac archwilio 'beth allai fod yn bosibl'.
Cam 1 o bum cam Sola a Couturier (2014) yn y broses datblygu strategaeth yw 'Asesu'r sefyllfa' a Cham 2 yw 'Adnabod y prif heriau a gosod y nodau'. Mae'r ddau o'r rhain gyda'i gilydd yn rhoi golwg o'r broblem yr ydych yn ceisio ei datrys.
Mae nifer o ffyrdd o ddisgrifio, dadansoddi, a datrys problemau, yn dibynnu ar eu lefel o anhawster a chymhlethdod, fel y dengys yn y ffigwr isod. Ceir cysyniadau hyd yn oed sy'n disgrifio problemau cymhleth o ran 'ddof' i 'ddyrys (wicked)' (Alford a Head, 2017).
Awgryma John Alford a Brian Head (2017) fod 'problem' yn fwy tebygol o fod yn ddyrys os oes sawl amod (neu'r rhan fwyaf ohonyn nhw) yn bresennol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol.
- Cymhlethdod strwythurol: cyndynrwydd cynhenid agweddau technegol (h.y. ddim yn ymwneud â rhanddeiliaid) ar y broblem.
- Deallusrwydd: Nid yn unig y mae peth ddeallusrwydd ynghylch y mater, ond mae natur y broblem neu ei datrysiad yn anhysbys – hynny ydy: mae'r wybodaeth berthnasol yn gudd, yn ddirgel neu'n anniriaethol; mae'n cynnwys sawl amrywiolyn cymhleth; a/neu mae ei waith datrys yn golygu gweithredu i ddarganfod cysylltiadau achosol a chanlyniadau tebygol.
- Gwybodaeth dameidiog: mae'r wybodaeth sydd ar gael yn dameidiog ymhlith sawl rhanddeiliad, y mae bob un ohonynt yn meddu ar beth o'r hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem, ond nid y cyfan.
- Fframio gwybodaeth: peth o'r wybodaeth yn cael naill ai gormod neu ddim digon o sylw oherwydd y ffordd y caiff ei fframio, gan felly ystumio ein dealltwriaeth.
- Gwahaniaeth o ran buddiannau: mae gan y sawl rhanddeiliad fuddiannau (neu werthoedd) sy'n mynd yn groes yn sylweddol i fuddiannau eraill.
- Dosbarthiad pŵer: Mae dosbarthiad camweithredol o bŵer ymhlith rhanddeiliaid, lle all grymoedd pwerus iawn gorlethu grymoedd llai pwerus, hyd yn oed os yw mwy o bobl yn cytuno ar yr olaf; neu lle mae buddiannau nad ydynt yn cyd-fynd â'i gilydd yn cael eu paru â phwerau nad ydynt yn cyd-fynd â'i gilydd.
Bathodd Russell Ackoff y term 'Messes' (neu anrhefn) ym 1974 i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o broblemau. Mae 'messes' neu anrhefn yn fwy nag 'anhawsterau' ac yn cyflwyno goblygiadau mwy difrifol oherwydd y nifer uwch o bobl yr effeithir arnynt, cyfnod hirach y sefyllfa, a chan eu bod mor gymhleth. Yn ogystal, mae elfen o ansicrwydd yn perthyn i 'messes' neu anrhefn, ac nid yw'n rhwydd diffinio'r sefyllfa neu'r broblem yn gryno.
Gellir categoreiddio'r problemau hyn fel y dengys yn y tabl isod.
Dyrys problemau anodd yn anodd eu diffinio ac yn newid gydag amser, mae sawl rhanddeiliaid ynghlwm â nhw, ac mae dadansoddiad o achos problem yn arwain at ddatrysiadau eraill sy'n dargyfeirio i ddatrysiadau posibl eraill (h.y. mae pob datrysiad yn creu materion newydd) |
Anrhefn Ddyrys yn ddyrys ac yn cynnwys cymhlethdod materion rhyngberthynol, datrysiadau heb fod o'r safon uchaf yn creu problemau eraill |
Dof diffinio materion hysbys yn glir, rhai rhanddeiliaid sydd ynghlwm â nhw, ac mae dadansoddiad o achos problem yn arwain at ddatrysiadau eraill sy'n cydgyfeirio i un datrysiad posibl (h.y. datrysiad yn benodol) |
Anrhefn Ddof ond sy'n cynnwys cymhlethdod materion rhyngberthynol, mae datrysiadau heb fod o'r safon uchaf yn creu problemau eraill |
Yn ogystal, adnabu Rittel a Webber (1973) ddeg nodwedd problemau dyrys, sy'n helpu i ddeall ymhellach cymhlethdod ystyried yr hyn a all fodd ynghlwm â phroblemau sydd gennych chi. Gweler Ffigwr 18.
![Y ddelwedd a ddisgrifir](https://www.open.edu/openlearn/pluginfile.php/3633275/mod_oucontent/oucontent/117422/3909872b/6625d739/hyb_1_cy_fig6.png)
Yn sgil ei natur, efallai na fyddwch yn gallu datrys y broblem ddyrys yn ei chyfanrwydd, ond gallwch liniaru rhai o'r canlyniadau. Mae hyn yn gofyn bod yn agored i syniadau ac arbrofi gyda dulliau gweithredu gwahanol, megis dylunio sy'n canolbwyntio ar fodau dynol neu ffocws rhyngddisgyblaethol (IDEO, 2015).
Er bod gan broblemau ddyrys fframweithiau i'w hystyried, dull gweithredu arall yw meddwl am broblemau fel pethau anodd eu trin − hynny ydy, nad oes dull gweithredu amlwg er mwyn eu datrys. Wrth i chi ystyried problem, rydych yn ei ail-fframio ac yn ceisio gwneud synnwyr o'r broblem a chwilio am lwybrau gwahanol a fydd yn helpu i leddfu'r mater. Mae hyn yn tynnu ar ymgymryd â dull sy'n canolbwyntio fwy ar fodau dynol wrth ddatrys problemau.
Mae hyn yn cynnwys arsylwi, defnyddio empathi i archwilio'r broblem ymhellach, datgelu beth efallai nad yw'n amlwg i ddechrau, meddwl am syniadau, gyda gweithgareddau profi a dysgu er mwyn casglu adborth, cyn gweithredu datrysiad posibl.
Gweithgaredd 10 Ail-fframio eich problem
Meddyliwch am sefyllfa gymhleth a heriol yn eich bywyd neu'ch gwaith, a threuliwch ennyd yn beirniadu pa un ai a yw eich sefyllfa/problem yn anrhefn ddof neu ddyrys, ac a yw'n anodd ei thrin? Yna, dechreuwch ail-fframio'ch sefyllfa/problem i archwilio a oes unrhyw elfennau y gellid eu tawelu.
Gwnewch ychydig o nodiadau ynghylch y broses hon yn y blwch isod.