Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.5 ‘Islands in the Sky’ – astudiaeth achos

Yn yr astudiaeth achos ganlynol, eglura Anne Gambles (Uwch-reolwr Prosiect, y Brifysgol Agored) y gwaith a wnaeth gyda Dr Matt Finch a Murray Cook, Brendan Fitzgerald a Zindzi Cresswell (Ymarferwyr Strategaeth a Senarios) a thîm AZB Selva, yn cynghori ar y defnydd o ‘Islands in the Sky’ ar gyfer archwilio ffyrdd newydd o weithio yn uned Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod (LDS) y Brifysgol Agored.

Mae'r astudiaeth achos yn cynnig amlinelliad o'r dull, ac yn cynnwys fideos sy'n dangos Anne a Murray yn rhannu eu profiad o'r broses.

Astudiaeth achos: ‘Islands in the Sky’ gyda LDS, y Brifysgol Agored

Datblygu'r dull

Yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020, adnabuom yr angen i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol. Defnyddiasom arolygon byrion i gasglu safbwyntiau cydweithwyr ar sut hoffech chi weithio yn y dyfodol a chynnal sesiynau 'Beth yw ein Pam?'. I gyd-fynd â'r gweithgareddau hyn, penderfynasom ystyried dull arloesol i helpu i strwythuro ein meddyliau a'n sgyrsiau ynghylch y dyfodol, wrth weithio mewn cyfnodau ansicr.

Yn 2021, bu Dr Matt Finch yn gweithio i gyflwyno methodoleg meddwl am y dyfodol i helpu pobl i feddwl a sgwrsio am y dyfodol mewn ffordd ystyrlon. Cynhaliwyd gweithdai Cam 1 gyda thimau prosiect ac arweinwyr strategol i roi'r dull ‘Islands in the Sky’ dan brawf. Roedd y rhain yn dangos ymwybyddiaeth ac awydd i gysylltu ag ymatebion arloesol ac ymarferol i greu dyfodol cadarn a gwirioneddol deg. Bu'r canlyniadau hyn yn gymorth i fod yn sail i ddylunio arbrofion profi a dysgu ar gyfer gweithio hybrid a dylunio gweithle ffisegol gyda'r Brifysgol Agored.

Yn 2022, cysylltom ag AZB Selva (Murray Cook, Zindzi Cresswell a Brendan Fitzgerald) i ofyn iddynt weithio gyda ni ar Gam 2, i ddatblygu ymhellach y fethodoleg ‘Islands in the Sky’ a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae Cam 2 yn canolbwyntio ar greu a mewnosod pecyn cymorth ar gyfer unigolion a thimau gael sgyrsiau ynghylch y dyfodol.

Y prif nodau oedd:

  • Annog dull creadigol a dychmygol ar gyfer rhagweld a chynllunio dyfodol.
  • Mabwysiadu gwytnwch ac annog cyfranogiad gyda'r dyfodol agos.
  • Magu hyder a gallu ar gyfer rheoli dyfodol ansicr.

Y broses

Dros gyfnod o bum wythnos yn ystod pandemig COVID-19, cynaliasom weithdai o bell yn unig ar gyfer ein cydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol Agored. Defnyddiwyd y ddysg o'r sesiynau hyn i ddatblygu'r pecyn cymorth ‘Islands in the Sky’ yn Miro, bwrdd gwyn cydweithrediadol ar-lein, a chanllawiau mewn PDF.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 28 Amgylchedd Miro ar gyfer gweithdai ‘Islands in the Sky’

Gofynasom i gyfranogwyr ddechrau arni drwy benderfynu ar eu prif fater a'r gorwel amser. Mae'r prif fater yn rhywbeth y dymunant ei archwilio neu ddod i benderfyniad yn ei gylch. Yna, dechreuasant fapio eu hamgylchedd gweithrediadol a nodi'r holl endidau mewnol ac allanol maent yn rhyngweithio gyda nhw'n uniongyrchol wrth iddynt gyflawni eu gwaith, a'r math o berthynas sydd ganddynt gyda nhw – boed yn swyddogaethol neu'n gymdeithasol. 

Roedd cyfranogwyr yna'n ystyried yr ansicrwydd sy'n llywio, neu'n annog y penderfyniadau a wneir gan yr endidau maent yn rhyngweithio â nhw. Yna, maent yn canolbwyntio ar ffactorau neu'r grymoedd nad oes modd eu rhagweld yn llwyr ymlaen llaw, ac a all arwain at newid sylweddol yn eu ffordd o weithio mewn amser. 

Yna, dewiswyd cyfuniadau gwahanol o'r ffactorau hyn gan gyfranogwyr i archwilio a llunio senarios gwahanol, a sut allant effeithio ar berthnasoedd ac amgylcheddau gwaith y dyfodol. Meddyliodd y cyfranogwyr sut bethau all y ffactorau fod mewn perthynas â'u gorwel amser dewisol.

Yna, gofynnwyd i gyfranogwyr ystyried y materion hollbwysig yr adnabuant, y cyd-destun yr oeddent yn gweithio ynddo ac effaith y rhain ar eu prif fater. Yna, gofynnwyd iddynt a yw'r prif fater wedi newid o gwbl? Beth a ddylent roi'r gorau iddo, ei ddechrau neu barhau nawr, a all eu helpu i weithredu os/pa bryd y ceir newid – beth sydd angen bod ar waith?

Yn olaf, neilltuwyd amser i adolygu'r profiad, a chytuno ar ba weithredoedd y gallant fynd gyda nhw. Yna, cafodd allbynnau'r gweithdai eu crynhoi a'u casglu mewn adroddiadau i'w hadrodd i nawdd y prosiect a threfnu sgyrsiau parhaus gyda chyfranogwyr gweithdy.

Yn y fideo, myfyria Anne a Murray ar y profiad o gynnal y gweithdy.

Download this video clip.Video player: Fideo 18
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 18 Profiad o ddefnyddio ‘Islands in the Sky’
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Canlyniadau

Buddion cychwynnol defnyddio ‘Islands in the Sky’ yw'r lleisiau, profiadau a chyfleoedd gwahanol yr ydym wedi'u casglu o'r gweithdy. Mae'r rhain wedi'u defnyddio gan y Gyfarwyddiaeth a'r uwch-grŵp arwain i fod yn sail i waith cynllunio uned a thynnu ar y dystiolaeth i ystyried rheoli risg, cynllunio parhad busnes a rheolaeth strategol.

Gall timau nawr ddefnyddio'r pecyn cymorth ‘Islands in the Sky’ yn ôl eu cylchred cynllunio/busnes a gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â'n pecyn cymorth 'Beth yw ein Pam?'. Er mwyn gwneud hyn a mewnosod y ddysg ymhellach, rydym am ddatblygu rhagor o adnoddau. Mae'n cynnwys rhaglen i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o'r fethodoleg ar gyfer hyrwyddwyr newid, i alluogi eraill arwain gweithdy ar gyfer rhaglenni strategol ar draws sefydliad ar draws y Brifysgol Agored.

Myfyrio a dysgu

Yn y fideo, rhanna Anne a Murray eu myfyrdodau ynghylch buddion a chyfleoedd defnyddio'r dull hwn.

Download this video clip.Video player: Fideo 19
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 19 Buddion a chyfleoedd
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Pwynt pwysig sy'n sail i'r dull Island in the Sky yw na allwch edrych ar y dyfodol unwaith yn unig. Mae gwaith ynghylch y dyfodol yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi ddod yn ôl dro ar ôl tro, oherwydd, nid yn unig y mae'r byd yn newid, ond mae safbwyntiau pobl a'r wybodaeth y gallant ei rhannu yn newid hefyd. Credir mai drwy fewnosod y fethodoleg hon yn ein cylchredau cynllunio strategol, gall fod yn adnodd grymus iawn i ystyried yn barhaus yr hyn y mae angen i ni ei ddechrau neu roi'r gorau i'w wneud.

Er mwyn datblygu'r dull ymhellach, gwnaethom gasglu adborth gan gyfranogwyr y gweithdy, a chanfu mai'r prif themâu a godwyd oedd:

  • Roeddent yn mwynhau pa mor weithrediadol all gweithdai fod.
  • Roeddent yn gwerthfawrogi safbwyntiau cydweithwyr o feysydd eraill y brifysgol gan fod hyn yn eu helpu i wneud synnwyr o bethau a oedd wedi'u poenydio yn y gorffennol.
  • Roedd yn creu ardal ddiogel i sgwrsio am brofiadau, a'u cyfnewid, o'r ansicrwydd yr oeddent yn ei wynebu fel unigolion yn y gweithle, ond hefyd sut oeddent yn teimlo ynghylch ansicrwydd sefydliadol.
  • Gellid cyflawni canlyniadau mwy cadarnhaol drwy addasu'r gweithdai i adlewyrchu'r cyfranogwyr, a thargedu gweithdai ar gyfer grwpiau gwahanol, er enghraifft:
    • uwch arweinwyr yn unig
    • pobl mewn amrywiol swyddi
    • grwpiau uned cymysg
    • gan ganolbwyntio ar y rheini sydd ynghlwm â blaenoriaethau strategol, fel datblygu ein dealltwriaeth o gynhwysiant, drwy gynnig lle diogel i grwpiau penodol fod yn agored ynghylch sut y teimlant y gallwn ni fel sefydliad fod yn fwy cynhwysol ac amrywiol.

Mae'r adborth a myfyrio ar ein profiad o ddatblygu Cam 2 wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer llywio datblygiad y dull hwn. Drwy gael gwahanol sgyrsiau gyda'r Brifysgol Agored ynghylch ein cyfleoedd, ansicrwydd, ein dyfodol, a sut allwn gefnogi diben ehangach y sefydliad, gallwn ddatblygu dealltwriaeth gyffredin.

Gweithgaredd 19 Meddwl am gydweithio ag eraill

Timing: 10 munud

Mae cydweithio gydag eraill yn elfen bwysig o ‘Islands in the Sky’, yn ogystal â chyflwyno lleisiau gwahanol i'r sgyrsiau i greu dealltwriaeth gyffredin. Yn yr astudiaeth achos, codwyd ystyriaeth allweddol o adolygiad o'r broses – sef efallai nad oedd ganddynt y bobl gywir.

Meddyliwch am broblemau/materion a phwy y mae angen i chi eu cael 'yn yr ystafell' i sicrhau eich bod yn ennill y dealltwriaethau cywir i symud ymlaen. Myfyriwch ar y nodiadau y gwnaethoch wrth wylio'r fideos gan Matt, Anne a Murray.

Ystyriwch sut all defnyddio'r dull ‘Islands in the Sky’ arwain at sgyrsiau gwell ar gyfer y dyfodol a helpu i adnabod y meysydd y mae angen i chi ganolbwyntio arnynt wrth ymgymryd â chynllunio dyfodol.

Efallai yr hoffech wneud nodiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).