Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Cynllunio dyfodol ar gyfer y byd sydd ohono

Yn y rhai blynyddoedd diwethaf, mae pob sector yn y diwydiant, gan gynnwys y sector addysg uwch, wedi gorfod ymateb i newid ac ansicrwydd na welwyd eu tebyg o'r blaen, gan fod yn ystyriol o'r effaith ar lesiant y rheini yn eich sefydliad a'ch cymuned ehangach. Yn sgil pandemig COVID-19, gofynnwyd i ni addasu'n barhaus ac yn gyflym, wrth i gyfyngiadau a chanllawiau newid rhwng 2019 a 2022. Mae'r amgylchedd allanol yn dal i fod yn ansicr, wrth i sefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol barhau i amrywio, a chostau byw yn codi.

Mae'r modd yr ydych yn arwain eich sefydliad ac yn cynllunio ar gyfer parhad a thwf busnes yn hollbwysig i fynd i'r afael â'ch anghenion, eich nodau a'ch amcanion yn y tymor byr, canolig a'r hirdymor.

Mae dulliau amrywiol o ragweld a chynllunio dyfodol, fel y gwelir yn y ffigwr isod, ac fel rhan o'r cwrs hwn, dim ond rhai o'r rhain y byddwn yn eu harchwilio.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 5 Dulliau gwahanol at ragweld a chynllunio dyfodol (Futures Platform, dim dyddiad)

Yn y fideo isod, mae Dr Matt Finch (Cymrawd Cyswllt, Ysgol Fusnes Saïd) a'r Athro Rafael Ramírez (Athro Ymarfer, Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen) yn rhoi cyflwyniad i ddyfodol a chynllunio sefyllfaoedd. Wrth i chi wylio, meddyliwch am eich dealltwriaeth eich hun o'r math hwn o gynllunio.

Download this video clip.Video player: Fideo 4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 4 Beth yw cynllunio dyfodol?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

I'ch cynorthwyo chi wrth i chi fynd ymlaen drwy'r cwrs ac ystyried eich dull o gynllunio dyfodol, mae'r 'Ffyrdd hybrid o weithio: fframwaith cynaliadwyedd cyd-destunol' a ddengys isod, wedi'i ddylunio ar gyfer y casgliad hwn o gyrsiau. Mae'n pwysleisio'r meysydd allweddol efallai yr hoffech ystyried eu datblygu ar gyfer eich sefydliad, gan hefyd reoli disgwyliadau, anghenion a llesiant eich rhanddeiliaid.

Mae'r fframwaith yn eich helpu chi i ystyried a deall eich cyd-destun a'ch anghenion sefydliadol drwy lens gwahanol, gan fod yn ystyriol o'ch llesiant eich hun hefyd.

  1. Dylech chi, a'ch ffyrdd o weithio, fod yn ystyriol o'ch prif randdeiliaid yn eich amgylchedd a'u hanghenion mewn perthynas â datblygiad sefydliadol.
  2. Mae angen i chi ddeall gofynion sefydliadol, y cyd-destun, cysylltiadau, a gofynion ar gyfer meysydd ffocws allweddol, a sut mae'r rhain yn cysylltu ag anghenion eich rhanddeiliaid.
  3. Mae angen i chi ystyried eich ffyrdd o weithio ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 6 Ffyrdd hybrid o weithio: fframwaith cynaliadwyedd cyd-destunol

Os nad ydych yn gyfarwydd â'r term 'lens', caiff y term hwn ei ddefnyddio wrth gyfeirio at edrych ar bethau o wahanol bersbectifau, gyda dull empathig. Drwy osod eich hun mewn sefyllfaoedd gwahanol neu drwy edrych ar bethau o bersbectif rhywun arall – ystyried y safbwyntiau hynny ac ailadrodd hyn ar gyfer yr elfennau/rhanddeiliaid/meysydd gwahanol sydd ynghlwm – rydych yn datblygu safbwynt mwy holistig a chyfnerthedig o'r anghenion, y gefnogaeth sydd ar gael a'r cwestiynau a'r datrysiadau posibl a all godi.