Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Casgliad

Fel rhan o'r cwrs hwn, darparasom fframweithiau, adnoddau a thechnegau i fframio problemau yng nghyd-destun amgylcheddau hynod gymhleth. Rydych wedi astudio modelau i'ch helpu chi i ddadansoddi problemau a datblygu opsiynau a datrysiadau yn erbyn ysgogwyr, effeithiau a chyfyngiadau allweddol.

Trafodasom y prif dechnegau ar gyfer ennill cydsyniad ar gyfer eich rhaglen, ac i'w datblygu. Ar ôl dechrau arni gyda 'Pam', aethoch ati wedyn i archwilio strategaethau i symud ymlaen 'Beth' ydych chi'n ei newid ac, yn bwysicach, 'Sut' ydych am gyflawni'r 'Beth' yn y dyfodol.

Treuliwch amser yn myfyrio ar bwysigrwydd gweithredu ymarferion gweithio cynaliadwy, yn ogystal â bodloni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a thargedau sero net. Wrth i'ch sefydliad esblygu i lwyddo ac amddiffyn llesiant cenedlaethau'r dyfodol, meddyliwch am sut allwch ddefnyddio'r fframwaith cyd-destunol i'ch cynorthwyo chi yn yr hirdymor. Adnabuwyd y fframwaith yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn a chaiff ei ail-adrodd isod i'ch helpu chi i dynnu ar eich casgliadau.

Mae'r fframwaith yn eich helpu chi i ystyried a deall eich cyd-destun a'ch anghenion sefydliadol o bersbectifau allweddol.

  1. Dylech chi, a'ch ffyrdd o weithio, fod yn ystyriol o'ch prif randdeiliaid yn eich amgylchedd a'u hanghenion mewn perthynas â datblygiad sefydliadol.
  2. Mae angen i chi ddeall gofynion sefydliadol, y cyd-destun, cysylltiadau, a gofynion ar gyfer meysydd ffocws allweddol, a sut mae'r rhain yn cysylltu ag anghenion eich rhanddeiliaid.
  3. Mae angen i chi ystyried eich ffyrdd o weithio ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 6 (ail-adrodd) Ffyrdd hybrid o weithio: fframwaith cynaliadwyedd cyd-destunol

Wrth i chi fyfyrio, gwyliwch y fideo isod, lle mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn rhannu ei safbwyntiau ar sut all sefydliadau addysg uwch helpu i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol. Pan ydych yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, ystyriwch y rôl y gall sefydliadau addysg uwch, cyrff cyhoeddus a phob sefydliad ei chwarae i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio er mwyn amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol.

Download this video clip.Video player: Fideo 25
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 25 Amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae'n bwysig sicrhau bod y newid a ddisgwyliwch yn y ffyrdd o weithio yn cael ei gynnal a'i fewnosod, drwy gyflawni amcanion a gwireddu'r buddion yn yr hirdymor. Gobeithiwn y bydd popeth a nodwyd yma, a'r holl adnoddau ychwanegol, yn eich helpu chi i ddatblygu'ch cynllun.

Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, efallai yr hoffech ymchwilio ymhellach iddo.