7.1 Penderfyniadau ar sail data
Nodir yng Nghenhadaeth 6 Strategaeth Ddigidol i Gymru: data a chydweithredu:
Caiff gwasanaethau eu gwella drwy gydweithio, a chaiff data a gwybodaeth eu defnyddio a’u rhannu.
Mae data yn sail i bopeth a wnawn yn ddigidol. ... sicrhau gwelliant ymatebol a pharhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi gwasanaethau di-fwlch, yn galluogi arloesi digidol ac awtomeiddio, ac yn bwydo penderfyniadau da.
…
Mae graddfa’r chwyldro data wedi codi cwestiynau pwysig am fynediad i ddata a sut defnyddir data. Rhaid i ni sicrhau bod moeseg data, tryloywder a ffydd wedi’u mewnosod drwy’r camau a gymerwn.
Mae data a gwybodaeth yn ganolog i weithredu a datblygu sefydliadau a dyma, o bosibl, yw un o'u hasedau mwyaf gwerthfawr. Mae penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gafwyd fel arfer o ddata a gwybodaeth yn eich caniatáu chi i ddadansoddi'ch sefydliad i:
- wneud penderfyniadau
- adnabod anghenion
- olrhain llesiant eich gweithlu
- darparu tystiolaeth mewn cymhariaeth ag amcanion/targedau ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Wrth gyflwyno opsiynau, mae wastad yn synhwyrol cael tystiolaeth wrth law i ddilysu'ch rhesymau, sydd fel arfer yn gasgliad o ffeithiau ac ystadegau yn seiliedig ar ymchwil a gwybodaeth ansoddol neu feintiol.
Yn y lle cyntaf, rydym yn meddwl am ddata fel gwybodaeth sydd wedi'i chasglu'n ddigidol o wybodaeth sydd wedi'i rhannu ar draws systemau digidol, neu drwyddynt. Ond gall data hefyd gynnwys gwybodaeth sydd wedi'i chasglu drwy siarad gydag eraill neu wybodaeth wedi'i thynnu o adroddiadau. Yn aml, gellir grwpio data fel a ganlyn:
- Data mewnol – yn rhoi cipolwg ar eich gweithrediadau, cyllidebau, rheolaeth perfformiad, cynhyrchedd a seilwaith. Mae'n caniatáu dadansoddiad bwlch a dealltwriaeth o anghenion eich gweithlu.
- Data allanol – yn aml yn helpu gyda dadansoddi tueddiadau a meincnodi yn eich amgylchedd allanol.
- Data marchnata – caiff ei ddefnyddio i ddeall ymddygiadau a dewisiadau cwsmeriaid, er enghraifft i gynorthwyo gydag ymrestru a chadw myfyrwyr sefydliadau Addysg Uwch
Gweithgaredd 24 Adrodd stori drwy ddata
Wrth gyflwyno opsiynau a defnyddio data, mae angen iddo fod yn ddeniadol ac ystyrlon - un ffordd yw'r cysyniad o adrodd stori drwy ddata. Yn y fideo isod, eglura Laura Dewis (Prif Swyddog Gweithredol, Full Fact) sut allwch chi roi bywyd i ddata.
1. Gwyliwch y fideo ac ystyriwch sut ydych yn cyflwyno data i eraill, a sut allech chi wneud hyn yn y dyfodol.

Transcript: Fideo 24 Adrodd stori drwy ddata
2. Darllenwch yr erthygl: Hybrid Work Is Just Work. Are We Doing It Wrong?’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Microsoft, 2022)
Ystyriwch sut mae'r erthygl wedi'i chyflwyno a sut caiff data ei ddefnyddio i dynnu ar brif bwyntiau'r adroddiad. Os oeddech chi'n cynllunio dyfodol ar gyfer ffyrdd newydd o weithio, sut allech chi ddefnyddio'r data i fod yn sail i feysydd efallai y bydd angen i chi ganolbwyntio arnynt?
Ateb
Mae adrodd stori drwy ddata yn ffordd rymus o ymgysylltu eraill â'r prif feysydd. Mae'n helpu i bwysleisio gwybodaeth ac annog ffyrdd gwahanol o ystyried y wybodaeth. Yn yr erthygl, defnyddiwyd adnoddau gweledol lliwgar i dynnu ar brif bwyntiau o'r adroddiad Productivity paranoia, people come in for each other and re-recruiting your employees (Microsoft, 2022) Mae'r erthygl yn creu stori'r dyfodol a'r angen i'ch cyflogeion, sef y rheini sydd ynghlwm â chynllunio dyfodol, godi cwestiynau cymhleth a all arwain at nifer o bosibiliadau gwahanol o ran y dyfodol ar gyfer sefydliad.