1.1 Cyd-destun cenedlaethol
Datblygwyd y cwrs hwn gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, (CCAUC), y corff cyhoeddus sy'n gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a'r darparwyr addysg uwch, felly cyfeirir at gyd-destun cenedlaethol Cymru yn bennaf yma. Efallai fod gan eich gwlad chi wahanol uchelgeisiau neu dargedau ar gyfer gwella llesiant a chynhwysiant yn y gweithle.
Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:
yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Ddeddf yn cynnwys saith nod i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru – ond gallai'r meysydd a drafodir fod yr un mor berthnasol i wledydd eraill. Gweler y nodau yn Ffigwr 1 ac maent wedi'u disgrifio yn Nhabl 1.
Cymru Lewyrchus Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. |
|
Cymru gydnerth Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid. |
|
Cymru sy’n fwy cyfartal Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
|
Gymru Iachach Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol |
|
Gymru o Gymunedau Cydlynys Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
|
Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
|
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
Y ddau nod sydd fwyaf naturiol gysylltiedig â'r cwrs hwn yw 'Cymru Iachach' (ar gyfer llesiant) a 'Cymru Fwy Cyfartal' (ar gyfer cynhwysiant), a bydd adnoddau sydd ynghlwm â'r nodau hyn yn cael eu pwysleisio ar adegau priodol drwy gydol y cwrs, yn enwedig yr hyn mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru (2022b) yn eu galw'n 'Newid Syml'. Cadwch lygad am y blychau drwy gydol y cwrs sy'n cynnwys dolenni at yr adnoddau hyn. Ni ymdrinnir â'r nodau eraill yn benodol, ond wrth i chi weithio drwy'r cwrs, ceisiwch fyfyrio ar sut allai'r pynciau yr ymdrinnir â nhw gysylltu â'r nodau hynny.
Cymru Iachach
Diffinnir nod 'Cymru Iachach' yn Nhabl 1. Bydd y nod hwn yn cael ei archwilio o wahanol bersbectifau yn y cwrs hwn, gyda ffocws penodol ar yr effaith mae gweithio o bell a gweithio hybrid yn ei chael ar lesiant meddyliol a chorfforol.
Cymru sy'n fwy cyfartal
Diffinnir nod 'Cymru sy'n Fwy Cyfartal' yn Nhabl 1 hefyd. Awgryma Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 y gellir gwireddu'r nod hwn drwy:
ennill mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau drosom a’n gweithlu’n gyffredinol, a sicrhau bod sefydliadau yng Nghymru yn mabwysiadu ymagweddau a fydd yn rhoi diwedd ar dlodi a lleihau anghydraddoldebau.
Bydd y cwrs hwn yn archwilio sut mae gwella amrywiaeth, cydraddoldeb a chyfiawnder yn y gweithle, ac yn adnabod rhai o'r buddion y gallai gwelliannau o'r fath eu cyflwyno i'ch sefydliad.