8.4 Ble mae gweithio hybrid yn ffitio yn hyn i gyd?
Remote working during the pandemic brought some workers real benefits to their wellbeing and work-life balance, which they are not keen to give up now that work from home guidance is coming to an end. Last year saw a 50% increase in the number of tribunal cases appealing refused flexible working requests. In a context where flexibility is increasingly important to workers, employers who don’t proactively offer longer term flexibility risk losing valued staff.
Fel y soniwyd eisoes, mae sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle yn bwysig er mwyn hyrwyddo perfformiad uchel mewn timau. Wrth i weithluoedd newid y ffordd maent yn gweithio i gynyddu dulliau gweithio o bell a hybrid, mae'n bwysig gwrando ar y lleisiau amrywiol hynny i atal anghydraddoldebau mewn modelau gweithio.
Blwch 6 Astudiaethau achos gweithio o bell
Mae'r astudiaethau achos sy'n gysylltiedig â'r isod yn enghreifftiau o'r hyn a wnaeth rhai sefydliadau yng Nghymru mewn ymateb i gyfyngiadau symud ar weithio mewn swyddfa. Maent yn cynnwys enghreifftiau o'r cyfleoedd a'r heriau a wynebodd pobl, a beth mae'r sefydliadau yn ei gynllunio mewn perthynas ag amrywio ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Nid oes angen i chi ddarllen pob enghraifft, ond dewiswch o leiaf dwy er mwyn cael persbectifau eraill.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
- Anabledd Cymru
- Race Equality First
- Theatr Clwyd
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Mae nifer o resymau pam fyddai neu na fyddai pobl yn awyddus i ddychwelyd i weithio'n llawn amser mewn swyddfa. Pa bynnag fodel y mae eich sefydliad yn ei fabwysiadu, mae angen i bob cymuned gael ei chlywed, yn ogystal â dealltwriaeth o'u hanghenion a'r rhesymau dros fodelau gweithio gwahanol. Mae hyn wedi'i gynnwys yn y Pum Ffordd o Weithio (Ffigwr 12) a amlygwyd mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn enwedig 'Cynnwys' a 'Cydweithio'. Mae'r ddwy ffordd hyn o weithio yn gwerthfawrogi cynnwys a gweithio gydag eraill i sicrhau cynrychiolaeth amrywiol o gymunedau i helpu i gyflawni'r nodau llesiant sydd wedi'u sefydlu yn y Ddeddf.
Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd. |
|
Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill. |
|
Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu. |
|
Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant. |
|
Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion. |