3 Pwy sy'n gyfrifol am lesiant yn y gweithle?
Nodwyd uchod bod gan gyflogwyr, rheolwyr ac arweinwyr rôl i'w chwarae yn hapusrwydd y gweithle (Finkbeiner, 2022).
Serch hynny, yng nghyd-destun llesiant, mae'n hynod bwysig eich bod yn ymwybodol o'ch statws eich hun cyn i chi geisio cefnogi eraill, a'ch bod chi'n teimlo eich bod yn gallu ceisio cefnogaeth neu weithredu i wella eich llesiant eich hun os oes angen i chi wneud hynny. Wrth gael eich briffio am ddiogelwch ar awyrennau, dywedir wrthych am osod eich masg ocsigen eich hunan yn gyntaf cyn rhoi cymorth i eraill, a dylech roi blaenoriaeth gyffelyb i warchod eich llesiant eich hun, er mwyn eich galluogi chi i gefnogi cydweithwyr ar bob lefel.
Yn y fideo isod, mae Sharon Mallon PhD, Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl yn Y Brifysgol Agored, yn trafod sut y gall sefydliadau ac unigolion fod yn fwy ymwybodol o fonitro llesiant.
