Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.5 Sut mae gwneud y mwyaf o amrywiaeth?

Felly, sut ydych chi'n creu neu'n cynnal sefydliad amrywiol? Cyflwyna Groysberg a Connolly (2013) wyth ymarfer sefydliadol a ymddengys yn effeithiol am wneud y mwyaf o amrywiaeth:

  1. Mesur amrywiaeth a chynhwysiant: bod yn ymwybodol o lefel yr amrywiaeth yn y sefydliad. Casglu data er mwyn mesur yr hyn rydych yn ei wneud yn dda a'r hyn y gallwch ei wella i wneud y sefydliad yn lle mwy amrywiol a chynhwysol.
  2. Dwyn rheolwyr i gyfrif: dylai amrywiaeth a chynhwysiant fod ymysg nodau'r sefydliad. Er enghraifft, ymgorffori'r nodau fel rhan o ddatblygiad proffesiynol y rheolwr, gan ddarparu hyfforddiant a gweithgareddau ymgysylltu.
  3. Cefnogi trefniadau gwaith hyblyg: cynnig buddion sy'n helpu gweithwyr i gydbwyso ymrwymiadau proffesiynol a phersonol, darparu hyblygrwydd gwell i oriau gwaith, caniatáu cyfnodau trawsnewidiol, cynnig cefnogaeth gofal plant etc.
  4. Recriwtio a dyrchafu o gronfeydd amrywiol o ymgeiswyr: chwilio am ddoniau yn y cam recriwtio yw'r cam cyntaf, ond mae hefyd yn bwysig cynnal y doniau hyn ar ôl hynny.
  5. Darparu addysg arweinyddiaeth: darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i bawb yn y sefydliad a cheisio cefnogi grwpiau sydd dan fwy o anfantais neu heb gynrychiolaeth ddigonol. Cynnig hyfforddiant ar amrywiaeth a chyfleoedd i dderbyn addysg a datblygiad allanol.
  6. Noddi grwpiau adnoddau a rhaglenni mentora i weithwyr: cynnig dulliau llai strwythuredig o ddatblygiad proffesiynol drwy grwpiau adnoddau, rhwydweithiau, rhaglenni mentora etc.
  7. Cynnig esiamplau o ansawdd: mae llu amrywiol o arweinwyr yn dangos bod sefydliad yn ymrwymedig i amrywiaeth ac yn cynnig esiamplau da i uniaethu â nhw.
  8. Gwneud i safle'r Prif Swyddog Amrywiaeth gyfrif: creu swydd Prif Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a gofyn i'r Prif Swyddog Gweithredol uchafu ei effeithiolrwydd.

Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru adnodd Newid Syml yn ymwneud â gwella amrywiaeth yn eich gweithle. Dilynwch y ddolen ym Mlwch 3 am ragor o wybodaeth.

Blwch 3 Newid Syml #39

(Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 2022b)