Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Cydraddoldeb

Fel y soniwyd yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn, un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw 'Cymru sy'n Fwy Cyfartal', a ddiffinnir fel:

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

(Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 2022d)

Mae cyflawni amrywiaeth well yn ein sefydliad, mewn swyddi arweinyddiaeth/gwneud penderfyniadau ac yn y gweithlu ehangach, yn gam agosach at gyflawni'r nod hwn, ond nid yw amrywiaeth a chydraddoldeb yr un fath. Mae cydraddoldeb yn y gweithle yn ymwneud â chyfleoedd cyfartal i bawb, sy'n golygu bod pawb yn gyfartal o ran:

  • gwneud cais am swyddi a chael eu dethol am swyddi (cyn-gyflogaeth)
  • derbyn hyfforddiant a chael eu dyrchafu yn eu gwaith
  • terfynu cyflogaeth yn gyfartal a theg.

Dylid ystyried tegwch hefyd. Er bod cydraddoldeb yn rhoi'r un adnoddau a chyfleoedd i bawb, mae tegwch yn sicrhau bod unigolion yn cael adnoddau a chyfleoedd yn unol â'u hanghenion a'u hamgylchiadau.

Er mwyn i arweinydd neu reolwr fodloni gofynion cynhwysiant mewn amgylchedd byd-eang a chythryblus, mae angen iddo edrych ar gynhwysiant mewnol ac allanol a chydnabod ei fod ef ei hun yn cynrychioli gwahaniaeth(au) i eraill.

Yn y DU, y brif ddeddfwriaeth sy'n amddiffyn hawliau pobl i gael cyfleoedd cyfartal o'r fath yw Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y bôn, gwahaniaethu yw gwrthod yr hawl i gyfleoedd cyfartal yn y gweithle, ac mae hynny'n anghyfreithlon o dan y Ddeddf.

Sefydlwyd corff o'r enw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2007 i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau yn y gweithle sy'n cael eu nodi yn y Ddeddf. Daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn lle'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw maes o'r enw 'nodweddion gwarchodedig'. Dyma nhw (yn nhrefn y wyddor):

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • statws priodasol neu bartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil (yn cynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenhedlig)
  • cefndir crefyddol
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol.

Mae'n debyg y byddwch yn cydnabod bod y rhain yn debyg iawn i'r categorïau sydd wedi'u hadnabod gan Ahmed (2018) yn y drafodaeth yng Ngweithgaredd 12. Cyn archwilio rhai o'r nodweddion gwarchodedig yn fwy manwl, dyma weithgaredd byr i egluro'r gwahaniaeth rhwng cydraddoldeb ac ecwiti.

Gweithgaredd 14 Cydraddoldeb neu ecwiti?

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Darllenwch yr erthygl fer hon (650 gair) sy'n dwyn y teitl Equality and Equity [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar wefan Social Change UK. Yna, treuliwch ychydig funudau yn ceisio meddwl am enghraifft o sut mae ecwiti wedi cyfrannu – neu sut allai gyfrannu – at gydraddoldeb gwell yn eich sefydliad eich hun. I'r gwrthwyneb, efallai fod gennych chi enghraifft o adeg y defnyddiwyd cydraddoldeb yn anghywir; os felly, sut fyddech chi'n mynd i'r afael â hyn?

Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Fel y nodir yng nghasgliad yr erthygl:

Equality and equity may be inherently different but are also bound together. In order to create true equality of opportunity, equity is needed to ensure that everyone has the same chance of getting there. However, we must act cautiously when dealing with equity; providing too little to those who need it and too much to those who do not can further exacerbate the inequalities we see today.

(Social Change UK, 2019)