3.1.2 Eich llesiant digidol
Soniwyd yn gynharach y byddai'r cwrs hwn yn archwilio llesiant o bersbectif digidol, yn seiliedig ar elfen 'Llesiant Digidol' fframwaith galluoedd digidol unigol Jisc (Jisc, dim dyddiad). Gadewch i ni edrych ar honno nawr.
Digital wellbeing is a term used to describe the impact of technologies and digital services on people’s mental, physical, social and emotional health.
Weithiau, gall gweithio hybrid, cyfathrebu a chydweithio digidol fod yn heriol neu drwm, a gall effeithio ar eich llesiant.
Gall fod yn fwy anodd datblygu diwylliant sefydliadol a magu ymddiriedaeth mewn amgylcheddau gweithio hybrid. Datblygir diwylliant ac ymddiriedaeth drwy gysylltiadau dynol, ac fel bodau dynol, rydym wedi gorfod addasu er mwyn gallu datblygu'r rhain, yn wyneb yn wyneb ac yn y byd rhithiol, digidol.
Wrth i ffyrdd newydd o weithio esblygu, mae'n werth gofyn cwestiynau fel y rhai canlynol: A ydym ni wedi addasu? Sut mae'n wahanol nawr? Os byddwch yn meddwl am y ffordd rydych chi'n gweithio gyda'ch cydweithwyr a'ch sefydliad ar ôl COVID-19, mae'n bosibl y byddwch yn sylwi bod eich diwylliant a'ch ymddiriedaeth wedi esblygu'n naturiol wrth i chi addasu i ffyrdd hybrid o weithio. Wrth i'r broses o weithio'n hybrid esblygu, mae'n bosibl y byddwch yn sylwi eich bod chi a'ch cydweithwyr yn mynd i'r swyddfa yn amlach, naill ai oherwydd gofynion sefydliadol neu o ddewis personol. Ar gyfer timau sy'n dilyn dull hybrid, mae'n bwysig cofio y bydd rhai pobl yn parhau i fod yn weithwyr o bell ac mae sicrhau eu bod yn parhau i deimlo'n rhan o bethau yn bwysig. Gall ystyried sut rydych chi'n gweithio gyda'ch tîm i wneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol helpu i gyflawni hyn.
Gweithgaredd 4 Effaith technoleg ddigidol ar eich llesiant
Edrychwch yn ofalus ar y diagram isod.
- Ystyriwch sut y gall technolegau effeithio ar eich llesiant digidol yn y gwaith drwy nodi eu heffeithiau cadarnhaol a negyddol, naill ai o'ch profiad personol chi neu brofiadau'r rhai hynny rydych wedi'u gweld mewn cydweithwyr.
- Yn eich barn chi, pa gapasiti sydd gennych chi i newid eich ymarferion digidol i wella'ch llesiant?
Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.
Trafodaeth
Mae gallu 'Hunaniaeth Ddigidol a Llesiant' Jisc yn cynnwys y gallu i:
- warchod iechyd, diogelwch, perthnasoedd a chydbwysedd gwaith–bywyd personol mewn cyd-destun digidol
- defnyddio adnoddau digidol mewn ymgais i gyflawni nodau personol (e.e. iechyd a ffitrwydd) a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
- gweithredu'n ddiogel a chyfrifol mewn amgylcheddau digidol
- rheoli llwyth gwaith digidol, gorlwytho a phethau sy'n denu sylw oddi wrth y gwaith
- gweithredu gyda phryder am yr amgylchedd dynol a naturiol wrth ddefnyddio adnoddau digidol.
Sut mae hyn yn berthnasol i'ch ymateb i'r gweithgaredd hwn?
Yn ôl Jisc (2019b), i unigolion mewn cyd-destun addysg, mae llesiant digidol yn 'cysylltu'n agos â'u llesiant personol a'u llesiant digidol cymdeithasol, ac i ddatblygu a rheoli eu hunaniaethau a'u hôl troed proffesiynol a digidol.'
Nawr, gwyliwch y fideo lle mae Sas Amoah, Cynhyrchydd Cyfryngau Digidol yn Y Brifysgol Agored, yn rhannu sut mae'n rheoli ei lesiant digidol.

Transcript
Mae model Jisc yn canolbwyntio ar bedwar cyd-destun o'ch llesiant digidol – cymdeithasol, personol, dysgu a gwaith – a all eich helpu i ystyried meysydd y gallwch fod am ganolbwyntio arnynt. Mae’r rhain wedi'u rhestru yn Nhabl 3.
Cyd-destun llesiant digidol | Ffactorau cadarnhaol | Ffactorau negyddol |
---|---|---|
Ffactorau cymdeithasol |
|
|
Personol |
|
|
Dysgu |
|
|
Gwaith |
|
|
Dyma rai o'r awgrymiadau mae Jisc yn eu hawgrymu i helpu i wella'ch llesiant digidol:
- Gofynnwch am hyfforddiant a chefnogaeth gyda'r systemau a'r adnoddau digidol sy'n berthnasol i'ch swydd, er mwyn i chi allu eu defnyddio'n effeithiol a diogel
- Treuliwch amser yn archwilio a deall eich dewisiadau a'ch anghenion digidol
- Ystyriwch effaith gweithgareddau digidol ar eich iechyd ac iechyd eraill
- Rheoli eich gweithlu digidol drwy ddysgu sut mae defnyddio adnoddau yn effeithiol, rheoli'ch negeseuon e-bost ac osgoi pethau sy'n denu'ch sylw
- Creu hunaniaeth ddigidol gadarnhaol.
Bydd nifer o'r rhain yn cael eu harchwilio yn Adrannau 4 a 5 o'r cwrs hwn.