Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4 Sefydlu ffiniau

Pan ydych yn weithiwr wedi'ch lleoli gartref, nid yw'n amlwg i deulu, ffrindiau neu aelodau eraill o'ch aelwyd pa bryd ydych chi'n gweithio a pha bryd nad ydych chi'n gweithio, a pha bryd mae modd iddynt amharu arnoch chi neu nad oes modd eich amharu – mae angen i chi wneud eich ffiniau yn glir.

Does dim gwahaniaeth gan rai pobl gael negeseuon e-bost neu negeseuon y tu hwnt i oriau'r swyddfa, ond mae'n well gan eraill gadw gwaith a bywyd y tu hwnt i'r gwaith ar wahân. I ba un o'r grwpiau hyn ydych chi'n perthyn?

Os ydych am wahanu eich bywyd yn y gwaith a bywyd yn gyffredinol, dylech ystyried edrych ar eich e-byst yn ystod eich oriau gwaith yn unig, a pheidio â chael eich e-byst ar eich dyfeisiau personol, os oes gennych ddyfais benodol ar gyfer y gwaith. Ychwanegwch neges fer am eich arferion gweithio at eich llofnod e-bost, a fydd o help i reoli disgwyliadau eich cydweithwyr ynghylch amseroedd ymateb.

Defnyddiwch y nodweddion llesiant – megis ‘peidiwch â tharfu' – ar eich dyfeisiau digidol er mwyn lleihau hysbysiadau, nodi amseroedd pan na fyddwch yn edrych arnynt, neu beth am ystyried eu diffodd yn llwyr y tu hwnt i'ch oriau gwaith? Mae'r syniad o ‘ddatgysylltiad digidol’ – i'r gwrthwyneb i'r broblem bresenoliaeth – yn bwnc llosg yn y sectorau adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol ar hyn o bryd, fel y gwelwch yn y gweithgaredd nesaf.

O ran agweddau ar weithio hybrid sydd wedi'u lleoli ar y safle, pa ffiniau sydd yno mewn perthynas â dod i mewn i'r swyddfa? A oes gan eich sefydliad neu adran ddisgwyliadau penodol mewn perthynas â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd ar y safle? Os nad oes gennych eich desg eich hun yn swyddfa eich sefydliad, a oes canllawiau clir ynghylch ymhle a pha bryd y cewch weithio ar y safle?

Gweithgaredd 9 Datgysylltiad digidol

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Darllenwch What is the right to digital disconnection? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (1300 gair) ar wefan ifeel (Rodríguez, 2022). Mae ifeel yn fusnes sy'n cynnig adnoddau llesiant emosiynol i sefydliadau.

Wrth i chi ei ddarllen, nodwch y pwyntiau allweddol sy'n apelio atoch chi a'ch profiad o weithio hybrid/digidol. Cewch ddefnyddio'r blwch isod i nodi'ch safbwyntiau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

I rai pobl, fel y rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu neu sy'n dioddef o salwch cronig neu anabledd, mae gweithio hybrid/digidol wedi agor drysau ar gyfer mwy o hyblygrwydd yn eu hamserlen waith. Wedi dweud hynny, mae'r perygl yn parhau bod gweithwyr yn teimlo dan bwysau i weithio oriau hir, e.e. efallai fod y rheini sy'n cyflawni eu rhwymedigaethau cytundebol yn gynnar yn y bore/yn hwyr yn y nos a/neu yn ystod y penwythnos yn teimlo bod rhaid iddynt fynychu cyfarfodydd neu ymateb i ohebiaethau a gafwyd yn ystod oriau swyddfa traddodiadol.