Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1.1 Eich llesiant corfforol: arwyddion o straen

Mae'r proffesiwn meddygol yn defnyddio mesurau megis mynegai màs y corff, pwysedd gwaed a lefelau colesterol i bennu llesiant corfforol, ond mae teimlo'n gorfforol dda yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Os oes gennych gyflwr meddygol hirdymor, er enghraifft, gall eich ymdeimlad personol o'ch llesiant personol fod yn wahanol i'r hyn sy'n cael ei ystyried yn feddygol 'normal'.

Wrth i fywyd modern ddod yn fwyfwy prysur, a chan fod pandemig COVID-19 wedi cyflwyno cyfuniad hollol newydd o bethau i ni boeni amdanynt, mae'n bosibl ein bod wedi dod i arfer gyda theimlo dan bwysau bron iawn bob dydd. Gall mymryn o straen neu orbryder ein helpu ni i fod yn fwy cynhyrchiol, yn ôl deddf Yerkes-Dodson, sydd i'w gweld yn Ffigwr 5.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 5 Deddf Yerkes-Dodson.

Wedi dweud hynny, gall gormod o straen gael effaith negyddol ar ein hiechyd a'n cynhyrchedd. Gall yr arwyddion corfforol hyn fod yn ddangosyddion defnyddiol ar y posibilrwydd eich bod dan ormod o straen:

  • Cur pen – mae cur pen rheolaidd/cronig wedi'i gysylltu â lefelau uchel o straen, ond mae ysgogwyr eraill cur pen yn cynnwys wedi'ch dadhydradu, diffyg cwsg, neu yfed llawer o alcohol.
  • Salwch cyson – mae bod dan straen yn cael effaith uniongyrchol ar y system imiwnedd, gan eich gwneud chi'n fwy agored i heintiau, ond gall eich deiet a lefel eich gweithgarwch corfforol effeithio ar imiwnedd hefyd.
  • Diffyg egni/blinder – mae lefelau egni yn amrywio'n naturiol drwy gydol y diwrnod. Gallai'r teimlad eich bod chi'n rhedeg ar goch drwy'r amser, hyd nes bod tasgau syml yn dod yn rhai heriol, fod yn arwydd eich bod dan ormod o straen; wedi dweud hynny, mae diffyg cwsg, dadhydradiad, lefelau siwgr isel yn y gwaed ac anemia hefyd yn ffactorau sy'n effeithio ar lefelau egni.
  • Insomnia – mae cael trafferth cysgu, oherwydd na allwch ymlacio eich meddwl neu oherwydd eich bod yn troi a throsi gyda'r nos, yn arwyddion o lefelau straen uchel. Mae arferion cysgu da yn gydran allweddol o lesiant a gall llai o gwsg achosi lefelau egni isel a chur pen, yn ogystal ag effeithio ar eich system imiwnedd.
  • Problemau treulio – gall symptomau corfforol, megis dolur rhydd a rhwymdra, fod o ganlyniad i ormod o straen, neu os ydych eisoes yn dioddef o'r Syndrom Coluddyn Llidus neu Glefyd Llid y Coluddyn, gall straen waethygu eich symptomau.
  • Awydd bwyd – gallai newid mewn awydd bwyd, boed hynny'n teimlo'n fwy neu'n llai llwglyd na'r arfer, fod yn ymateb i lefelau gormodol o straen.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn wynebu peth lefel o straen yn eu bywydau bob dydd, ond mae'n effeithio arnom ni mewn ffyrdd gwahanol. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi dan ormod o straen, dechreuwch drwy ystyried beth yw ffynhonnell y straen honno. Os yw'n gysylltiedig â gwaith, a allech chi drafod lleihau eich llwyth gwaith gyda'ch rheolwr llinell? Os mai eich bywyd personol yw'r broblem, a allech chi neilltuo mwy o amser i warchod eich hunan?

Mae ffyrdd syml o ofalu amdanoch chi'ch hunan er mwyn ymdrin â straen, gan gynnwys myfyrio, technegau anadlu, ioga a gweithgareddau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae nifer o sefydliadau yn cynnig gweithgareddau o'r fath i weithwyr mewn amrywiaeth o ffurfiau ar-lein ac all-lein – dylai bod eich tîm Adnoddau Dynol yn gallu eich cyfeirio chi at y rhain. Fodd bynnag, os byddwch yn profi'r symptomau corfforol y nodwyd uchod yn rheolaidd, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch meddyg teulu neu ddarparwr gofal iechyd hefyd er mwyn cael cadarnhad o achos eich symptomau, gan y gall sawl un o'r rhain fod yn arwyddion o broblemau iechyd sylfaenol, megis diabetes, diffyg maeth a'r menopos, a thrafod y camau gorau i'w cymryd.