5.6 Diogelwch seicolegol
Mae diogelwch seicolegol yn ymwneud ag unigolion sy'n teimlo eu bod yn gallu rhannu syniadau a barn heb ofn dial, gwahaniaethu neu gywilydd. Mae'n agwedd allweddol ar ddiwylliant cadarnhaol mewn sefydliad ac yn brif ffactor at lesiant eich gweithle.
Mae arwyddion gweithle sy'n anniogel yn seicolegol yn cynnwys petruster i siarad yn agored ac yn onest, amharodrwydd i ganiatáu gwneud camgymeriadau a lefel cymhelliant isel. Gall pobl deimlo'n anniogel mewn unrhyw sefyllfa neu weithio ar unrhyw lefel – nid yw hwn yn fater i staff mewn rolau iau yn unig.
I gyflawni amgylchedd gweithio sy'n seicolegol ddiogel, mae angen cael ymddiriedaeth rhwng gweithwyr a rheolwyr, a rhwng gweithwyr. Mae'r cwrs Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy'n rhan o'r casgliad hwn yn archwilio'n fwy manwl sut mae datblygu'r ymddiriedaeth honno. Gall yr agweddau ar gyfathrebu y soniwyd amdanynt yn gynharach yn yr adran honno gyfrannu at sefydlu ymddiriedaeth, yn yr un modd â rhwydwaith cefnogaeth. Mae gan rai sefydliadau lysgenhadon llesiant i helpu gyda hyn.
Fel rheolwr neu arweinydd, mewn perthynas â diogelwch, peidiwch â gofyn i aelodau'ch tîm wneud unrhyw beth na fyddech chi'n ei wneud. Cofiwch gadw eu pryderon mewn cof a thawelu eu meddwl. Anogwch gyfranogiad a chyfraniad gan bob aelod o'r teulu.
Gall ymddangos yn baradocsaidd, ond er eich bod eisiau pobl i deimlo eu bod yn gallu siarad yn rhydd, nid yw hynny'n golygu y cewch wneud fel y mynnwch. Mae'n bwysig bod natur ymosodol, bwlio a bychanu yn ymddygiadau sy'n cael eu cydnabod ac yn cael eu datrys yn brydlon.