4.5 Agweddau cadarnhaol a negyddol ar lesiant gwaith digidol
Ffeithlun gan Jisc yw Ffigur 8 sy'n crynhoi nodweddion cadarnhaol a negyddol llesiant gwaith digidol o safbwynt ei fframwaith galluoedd digidol unigol.
Nid yw'r cwrs hwn wedi ymdrin â'r holl bwyntiau sydd wedi'u cynnwys yn y ffeithlun hyd yma. Ymdrinnir â rhai ohonynt (megis cyfathrebu) mewn adrannau dilynol; caiff pwyntiau eraill eu crybwyll ond byddent wedi'u labelu'n wahanol; ac mae rhai pwyntiau y tu hwnt i gwmpas y cwrs hwn. Mae'n bosibl y byddwch am ddefnyddio termau Jisc er mwyn gwneud gwaith ymchwil annibynnol ar y pynciau nad ydynt wedi'u cynnwys yma.
Mae ffordd wahanol o ddarlunio effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl gweithio o bell a thechnoleg ar gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd wedi'i hamlygu mewn ymchwil gan Dr Lara Pecis o Ysgol Reolaeth a Work Foundation Prifysgol Caerhirfryn, melin drafod sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad Addysg Uwch hwnnw (Pecis a Florisson 2021). Dangosir hyn yn Ffigur 8.
Mae'r diagram hwn yn adlewyrchu dull y cwrs hwn o sicrhau llesiant yn fanylach. Yn yr adran nesaf, byddwn yn edrych yn fanylach ar lesiant cymdeithasol mewn gweithle hybrid.