3.1 Rheoli eich llesiant eich hun
Cyflwynwyd yn adran 2.1 y dangosyddion a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i fesur lefel bodlonrwydd oedolion ifanc yng ngwahanol agweddau ar eu bywydau. Yn ogystal, mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyfuniad wedi'i symleiddio o bedwar cwestiwn ynghylch llesiant personol sydd wedi'u defnyddio mewn amrywiaeth o holiaduron i fesur llesiant cenedlaethol ers 2010 (SYG, 2018). Rhowch gynnig ar ateb y cwestiynau hyn yng Ngweithgaredd 3.
Gweithgaredd 3 Pedwar mesur o lesiant personol
Mae tabl 2 yn nodi pedwar cwestiwn ynghylch eich teimladau am agweddau ar eich bywyd. Nid oes atebion cywir nac anghywir. Ar gyfer pob un o'r cwestiynau hyn, nodwch ateb ar raddfa o 0 i 10, lle mae 0 yn cynrychioli 'dim o gwbl' a 10 yn cynrychioli 'yn llwyr'.
Mesur |
Cwestiwn |
---|---|
Bodlonrwydd mewn bywyd |
Ar y cyfan, pa mor fodlon ydych chi gyda’ch bywyd yn ddiweddar? |
Gwerthfawr |
Ar y cyfan, i ba raddau ydych chi'n teimlo bod yr hyn a wnewch yn eich bywyd yn werthfawr? |
Hapusrwydd |
Ar y cyfan, pa mor hapus oeddech chi’n teimlo ddoe? |
Gorbryder |
Ar raddfa lle mae 0 yn cynrychioli 'ddim yn orbryderus o gwbl' a 10 yn cynrychioli 'yn gwbl orbryderus', ar y cyfan, pa mor orbryderus oeddech chi'n teimlo ddoe? |
Gadael sylw
Mae hwn yn adnodd hynod ddefnyddiol i wirio a monitro'n rheolaidd eich llesiant emosiynol neu feddyliol. Os wnaethoch ateb ar ochr isaf y raddfa ar gyfer un neu fwy o'r cwestiynau, meddyliwch pa gamau gweithredu y gallech eu cymryd i wella hynny, a pha gefnogaeth a all fod ei hangen arnoch chi.