Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Arwain llesiant

Os ydych mewn swydd arwain, dylech fod yn:

  • edrych ar y darlun ehangach, yn cadw ar flaen tueddiadau llesiant y gweithle a gosod blaenoriaethau strategol mewn modd rhagweithiol, lefel uchel, yn hytrach nag ymateb i sefyllfaoedd unigol
  • ystyried llesiant eich pobl dros gylch bywyd cyfan y cyflogeion, e.e. gan gynnwys cyfrifoldebau gofalu, beichiogrwydd (a chamesgor), y menopos a chyflyrau iechyd cronig
  • dangos ymddygiadau sy'n cefnogi llesiant yn y gweithle, h.y. ymarfer yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud
  • helpu'ch rheolwyr, drwy gymryd cyfrifoldeb am eu llesiant a llesiant eu timau.

Mewn cyd-destun digidol, mae Jisc (2019b) wedi adnabod wyth egwyddor arfer dda ar gyfer dulliau ymdrin â llesiant digidol ar gyfer y sefydliad cyfan:

  • darparu gwasanaethau cynhwysol ac ymatebol sy'n cefnogi gwaith digidol neu weithgareddau dysgu
  • ymgorffori llesiant digidol ym mholisïau a strategaethau cyfredol, yn enwedig polisïau hygyrchedd a chynhwysiant
  • darparu amgylcheddau ffisegol ac ar-lein diogel
  • cydymffurfio â dyletswydd gofalu am staff a myfyrwyr mewn perthynas â gwaith digidol neu weithgareddau dysgu
  • bodloni cyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol mewn perthynas â hygyrchedd, iechyd, cydraddoldeb a chynhwysiant
  • darparu hyfforddiant priodol, cyfleoedd addysgol, arweiniad a chefnogaeth i gymryd rhan mewn gwaith digidol neu weithgareddau dysgu
  • deall effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl sydd ynghlwm wrth waith digidol neu weithgareddau dysgu ar lesiant
  • darparu systemau, adnoddau a chynnwys digidol cynhwysol a hygyrch.

Mae'r egwyddorion hyn yn eang a dylid ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant hefyd. Mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn awgrymu'r canlynol:

To achieve genuine inclusion there must be positive action, including measures under the Equality Act 2010 to address past, present, and potential discrimination and barriers to enable and empower:

  • Equal access
  • Equal opportunities
  • Equal treatment
  • Equal resources
  • Equal outcomes
  • Equal impact

(CIPD, dym dyddiad)

Ar gyfer rhai enghreifftiau o'r camau y gallech eu cymryd i roi'r egwyddorion hyn ar waith, gallech lawrlwytho papur briffio llawn Jisc ar gyfer uwch-arweinwyr ac ymweld â gwefan gov.uk Deddf Cydraddoldeb 2010: gwefan canllawiau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Yn ogystal, cyhoeddodd Jisc bapur briffio ar lesiant digidol wedi'i anelu at ymarferwyr, sy'n pwysleisio'r canlynol:

Although education organisations have a duty of care to make sure their employees and students have a safe, legally compliant and supportive digital environment to work and learn in, individuals have responsibility for aspects within their control and should take appropriate steps to ensure they achieve and maintain a positive approach to digital wellbeing.

(Jisc, 2019c)

Efallai fod cyngor Jisc wedi'i fwriadu ar gyfer cyd-destun digidol, ond mae yr un mor berthnasol i weithio hybrid.

Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru chwe 'Newid Syml' yn ymwneud â llesiant y gallech chi, fel arweinydd, eu rhoi ar waith yn eich sefydliad. Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod mwy (agorwch nhw mewn ffenestr/tab newydd er mwyn i chi gael dychwelyd yma yn rhwydd).

Gall y diwylliant yn eich sefydliad effeithio ar lesiant unigolion. Mae angen i arweinwyr ystyried sut y gallent greu amgylcheddau iach, gyda diogelwch seicolegol a dulliau cyfathrebu effeithiol er mwyn datblygu diwylliant cynhwysol a chefnogol. Ewch i'r cwrs Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain o fewn y casgliad hwn er mwyn archwilio hyn yn fanylach.