Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.4 Osgoi unigedd

Mae unigedd cymdeithasol yn her sy'n aml yn gysylltiedig â gweithio o bell. Er ei bod yn well gan rai pobl weithio i ffwrdd o swyddfa brysur o bosibl, mae'n bwysig sicrhau bod pobl neu rwydweithiau ar gael i'r unigolion a'r timau er mwyn iddynt allu siarad â nhw yn rhwydd. Mae'n hawdd dod yn anweledig os ydych yn rhan o dîm rhithwir mewn byd gweithio'n rhithwir.

Yn rhai sefydliadau, mae'r cynnydd mewn gweithio hybrid ac o bell yn golygu bod swyddfeydd llawn, cynllun agored lle'r oedd gan bawb ei ddesg ddynodedig ei hun wedi'u trawsnewid yn ardaloedd sydd â system o weithio o sawl gweithfan, y mae modd mynnu'ch lle i'w defnyddio ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl mai chi fydd yr unig berson mewn ystafell yn y swyddfa drwy'r dydd pan fyddwch yn trefnu i fynd i mewn i'r swyddfa, a gall hyn wneud i chi deimlo'n unig neu yn anghyfforddus.

Sicrhewch eich bod yn cael sgwrs reolaidd gyda'ch rheolwr llinell ac os ydych yn gweithio mewn sefyllfa rheolaeth fatrics, sefydlwch gysylltiadau rheolaidd gydag unrhyw gydweithwyr arall yr ydych yn gwneud gwaith iddo, gan sicrhau eich bod chithau a hwythau yn deall y gwaith sydd angen ei wneud, yr amcanion, a pha bryd a sut y mae angen i chi eu cyflawni.

Os oeddech yn arfer cael digwyddiadau cymdeithasol mewn timau yn y swyddfa, a ydych wedi rhoi cynnig ar ddigwyddiadau tîm rhithiol? Gallai'r rhain fod mor syml ag egwyl am hanner awr i gael te neu goffi dros alwad fideo, lle y byddwch yn cael yr un mathau o sgyrsiau ag yng nghegin y swyddfa, neu gallai fod yn rhywbeth lle y gall y bobl gymryd rhan ynddo, fel helfa drysor.. Mae rhagor o enghreifftiau ac ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm yn teambuilding.com [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (sicrhewch eich bod yn agor y ddolen mewn tab/ffenestr newydd).