2.3 Amrywiol ddimensiynau llesiant
Cyfeiriodd 2.1 at y dimensiynau llesiant mae Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU yn eu defnyddio i fesur llesiant pobl ifanc, sef:
- personol
- perthynol
- seiliedig ar iechyd
- galwedigaethol
- amgylcheddol
- ariannol
- addysgol/seiliedig ar sgiliau.
Os ewch ati i ymchwilio i ddimensiynau llesiant (y cyfeirir ato hefyd fel 'lles' ar adegau), byddwch yn gweld categorïau eraill sy'n amrywio o bum elfen (sy'n nodweddiadol ynghlwm wrth fodel PERMA a ddisgrifir yn yr adran flaenorol) i wyth elfen. Ymddengys mai wyth yw'r cyfuniad mwyaf cyffredin, ac mae'n cynnwys y mathau o lesiant sydd wedi'u nodi yn Ffigwr 3.
Mae'r cwrs hwn yn ystyried y tirlun digidol ar ôl COVID-19 a'r ffyrdd hybrid o weithio sydd wedi'u hamlygu mewn ymateb i'r pandemig, felly bydd llawer ohono yn canolbwyntio ar ffactorau sy'n ymwneud â llesiant galwedigaethol (yn y gwaith). Wedi dweud hynny, mae ein llesiant galwedigaethol yn cael ei effeithio'n enfawr gan eich iechyd meddwl a chorfforol. Yn ogystal, mae'n anodd gwahanu'n llwyr yr hyn sy'n digwydd yn ystod oriau gwaith rhag pob agwedd arall ar eich llesiant, felly mae'n anochel y bydd y cwrs yn trafod sawl un o'r dimensiynau eraill sydd wedi'u rhestru uchod, i raddau mwy neu lai.