Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Dylanwad tueddiadau cenedliadol ar gyfathrebu

Mewn SAUau, mae'n gyffredin gweld cyflogeion o sawl cenhedlaeth yn gweithio ochr yn ochr. Er bod ein nodweddion cymeriad a'n harferion gwaith yn cael eu llywio gan ein personoliaethau ac nid ein hoedran, mae dylanwadau hanesyddol a chymdeithasol wedi effeithio ar bob cenhedlaeth. Gall deall y dylanwadau hyn helpu i wella dulliau cyfathrebu a chynhwysiant rhwng cenedlaethau ac osgoi gwneud tybiaethau ar sail ystrydebau.

Yn dibynnu ar bwy ydych chi'n gofyn, mae pedwar neu bum cenhedlaeth wedi'u cynrychioli yn y gweithle, sy'n cael eu diffinio'n gyffredin fel a ganlyn:

  • Traddodiadwr (a elwir weithiau yn y Genhedlaeth Fud) – ganwyd rhwng 1928 a 1945.
  • Cenhedlaeth y Cynnydd (baby boomers)– ganwyd rhwng 1946 a 1964.
  • Cenhedlaeth X – ganwyd rhwng 1965 a 1980.
  • Cenhedlaeth Y (a elwir hefyd yn bobl y milflwydd) – ganwyd rhwng 1981 a 1996.
  • Cenhedlaeth Z – ganwyd rhwng 1997 a 2012.

Mae gan bob cenhedlaeth ei nodweddion cymeriad yn seiliedig ar yr amgylchedd y magwyd ei aelodau, h.y. y cyfnod wedi'r rhyfel, yn ystod argyfyngau ariannol, ac ati.

The amount of technological development that has happened between the birth of the first traditionalists and Gen Z was so vast that it has created two entirely different life experiences. When Baby Boomers first got a job, a computer at each desk wasn’t commonplace, whereas Millennials and Gen Z have never known a world without one.

(Rice, 2021)

Gadewch i ni edrych yn fras ar rai o'r gwahaniaethau ystrydebol allweddol mewn perthynas â gwaith sydd wedi'u nodi ar gyfer pob grŵp. Cyffredinoliadau yw'r rhain, ac nid ydynt yn berthnasol i bob unigolyn mewn grŵp oedran penodol, ac mae'n bosibl y byddwch yn anghytuno â nhw yn seiliedig ar eich profiad a'ch dull eich hunain.

Traddodiadwyr

Caiff traddodiadwyr eu hadnabod am eu moeseg gwaith cryf. Maent yn gwerthfawrogi diogelwch swydd ac wedi dod i'r arfer ag agweddau ffurfiol mewn amgylcheddau gwaith yn fwy yn hytrach nag amgylcheddau gwaith hyblyg a hamddenol.

Cenhedlaeth y Cynnydd

Gall cenhedlaeth y cynnydd addasu i gyfathrebu wyneb yn wyneb a gwybodaeth wedi'i hargraffu. Maent yn ffyddlon i'w swydd ac yn ei thrin fel blaenoriaeth mewn bywyd, gan ganolbwyntio ar ddilyniant mewn gyrfa. Maent yn fodlon cymryd risgiau yn y gwaith er mwyn llwyddo. Maent yn disgwyl parch am eu teitl swydd. Mae nifer ohonynt nawr mewn oedran ymddeol, a chredir bod y pandemig wedi cyflymu cyfraddau ymddeol.

Cenhedlaeth X

Bu i Genhedlaeth X gorddi'r dyfroedd yn y gweithle traddodiadol gyda'u hannibyniaeth a'u natur fentrus – nhw yw'r genhedlaeth 'cychwyn arni', yn gweld gwerth mewn ymreolaeth ac arloesedd. Maent eisiau parch am eu syniadau ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Cânt gydnabyddiaeth hefyd am gyflwyno'r cysyniad o gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, gan wyro tuag at 'gweithio i fyw' yn hytrach na 'byw i weithio'. Yn y gwaith, maent yn dueddol o gyfathrebu drwy e-bost neu negeseua gwib, ac yn ffafrio dogfennau meddal yn hytrach na chopïau caled.

Cenhedlaeth Y/Pobl y Milflwydd

Pobl y milflwydd yw rhan o'r gweithlu sy'n tyfu gyflymaf. Maent yn canolbwyntio ar sgiliau, yn enwedig creadigrwydd, ac yn gwerthfawrogi gwaith ystyrlon mewn amgylchedd anffurfiol. Maent yn disgwyl i'w gweithwyr gael agweddau rhagweithiol a chadarnhaol at gynaliadwyedd, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant. Maent yn gyfforddus yn defnyddio technoleg i gaffael gwybodaeth 'jest mewn pryd'. Maent yn blaenoriaethu cyfeillgarwch a chyfranogiad.

Nodwedd 'pobl y milflwydd' a drafodir yn gyffredin yw eu hawydd am fwy o adborth na chenedlaethau blaenorol. Gall hyn fod yn gadarnhaol iawn, ond mae angen agwedd wahanol at gyfathrebu gan genedlaethau eraill.

Cenhedlaeth Z

Ar gyfer y genhedlaeth fwyaf diweddar sy'n rhan o'r gweithlu, nid yw nodweddion gweithle Cenhedlaeth Z wedi cael eu hymchwilio'r un mor drwyadl na'u diffinio â'r grwpiau eraill. Fodd bynnag, mae un peth yn sicr, nid ydynt wedi gweld byd arall ond un digidol. Daeth pandemig COVID-19 yn ystod cam datblygu allweddol ar gyfer Gen Z - fel rheol, dyma'r cyfnod lle y byddent yn gwneud cysylltiadau newydd ac yn pontio i fywyd oedolyn, ond effeithiwyd yn sylweddol ar y broses hon gan gyfnodau clo a chyfyngiadau eraill. Maent yn cael eu cyflogi yn anghymesur mewn diwydiannau megis lletygarwch a manwerthu, collodd nifer ohonynt eu swyddi yn ystod y pandemig. Maent yn gwerthfawrogi dilysrwydd, tryloywder, arloesedd a chynnydd personol.

Beth mae hyn yn ei olygu i'ch dull cyfathrebu?

Gall nodweddion cenedliadol arwain at heriau gwahanol yn y gweithle. Mae addasu eich arddull a chynnwys eich dulliau cyfathrebu i ddiwallu anghenion eich cynulleidfa yn ystyriaeth bwysig yn y cyd-destun hwn.

Yn y fideo isod, mae cyfranwyr yn rhannu eu mewnwelediad i weithio ar draws cenedlaethau a sut y gallwch chi adeiladu gweithleoedd mwy cynhwysol.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep116_expectations_of_generations_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).