Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Llesiant meddwl neu iechyd meddwl: beth yw'r gwahaniaeth?

Gadewch i ni fynd i'r afael â chwestiwn cyffredin: beth yw'r gwahaniaeth rhwng llesiant meddwl ac iechyd meddwl?

Mae'r cwrs hwn yn dueddol o gyfeirio at 'lesiant' yn hytrach nag 'iechyd', ac mae gwahanol ddehongliadau o ystyr 'llesiant' (meddyliol a chorfforol) eisoes wedi'u cyflwyno. Mae'n werth nodi, serch hynny, bod y termau 'llesiant meddwl' ac 'iechyd meddwl' yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol, ac felly bydd rhai o'r adnoddau sydd wedi'u cynnwys yn y cwrs hwn yn cyfeirio at 'iechyd' yn hytrach na 'llesiant'. Eglura'r Adran Iechyd y DU y berthynas rhwng llesiant meddwl ac iechyd meddwl fel a ganlyn:

Mental illness and wellbeing are independent dimensions; mental health is not simply the opposite of mental illness. It is possible for someone to have a mental disorder and high levels of wellbeing. It is also possible for someone to have low levels of wellbeing without having a mental disorder.

(Adran Iechyd y DU, 2014)

Defnyddir y termau 'salwch meddwl (mental illness)' ac 'anhwylder meddwl (mental disorder)' i ddisgrifio cyflyrau iechyd penodol, y mae modd rhoi diagnosis ohonynt ac sy'n ymwneud â newidiadau emosiynol, ymddygiadol ac yn y ffordd yr ydych yn meddwl – neu gyfuniad o'r rhain. Maen nhw'n dueddol o ddangos arwyddion a symptomau ymddygiadol parhaus, yn yr un modd ag y mae gan gyflyrau megis diabetes neu glefyd y galon symptomau corfforol mesuradwy.

Gan beri ychydig o ddryswch, mewn gwirionedd mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynnwys y gair 'llesiant (wellbeing)' yn ei ddiffiniad o iechyd meddwl:

Mental health is a state of mental well-being that enables people to cope with the stresses of life, realize their abilities, learn well and work well, and contribute to their community. It is an integral component of health and well-being that underpins our individual and collective abilities to make decisions, build relationships and shape the world we live in. Mental health is a basic human right. And it is crucial to personal, community and socio-economic development.

Mental health is more than the absence of mental disorders.

(Sefydliad Iechyd y Byd, 2022)

Mae Student Minds, sef elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU, yn nodi bod iechyd meddwl yn seiliedig ar gontinwwm a gall newid ar adegau gwahanol (StudentMindsOrg, 2018). Mae ganddynt ddelwedd ddefnyddiol i ddangos hyn:

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 4 Iechyd meddwl fel continwwm.

Yn gryno, nid oes gwahaniaeth syml rhwng y ddau derm, ond nid oes amheuaeth y gall llesiant meddwl unigolyn gael effaith sylweddol ar ei iechyd meddwl. Drwy warchod eich llesiant meddwl, a chael adnoddau a strategaethau ar waith i'ch cefnogi chi yn ystod sefyllfaoedd heriol neu sy'n peri straen, gall hynny eich helpu chi i osgoi problemau iechyd meddwl mwy difrifol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno chi i rai o'r adnoddau a'r strategaethau hyn, ond ni fydd yn trafod salwch meddwl yn fanwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y pwnc hwn, mae gan OpenLearn nifer o gyrsiau am ddim, a gallwch gael golwg ar y rhain drwy fynd i'r dudalen Free courses [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a theipio 'iechyd meddwl' neu ‘mental health’ yn y bar chwilota.

Gwelir hefyd Casgliad llesiant a iechyd meddwl.