Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Casgliad

Dechreuodd y cwrs hwn drwy ddyfynnu Barbara Bassa, Cyfarwyddwr Rhaglen Advance HE, a sylwodd fod ansawdd profiad myfyrwyr y brifysgol yn dechrau gydag ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan staff prifysgol. Drwy gydol y cwrs, rydych wedi bod yn myfyrio ar sut y mae'r staff yn eich sefydliad yn ymdopi â'r trawsnewid i ffyrdd mwy hybrid/digidol o weithio, yn ogystal ag ystyried yr effaith a gafodd y broses o 'newid i weithio ar-lein' ar ôl COVID-19 ar eich llesiant chi a llesiant y staff, a'r prosesau a'r arferion a roddwyd ar waith yn sgil hyn.

Dylai bod gennych ddealltwriaeth well o beth mae 'llesiant yn y gweithle' yn ei olygu mewn byd gweithio hybrid, yn enwedig:

  • cyfrifoldeb pwy ydyw
  • yr heriau sydd ynghlwm wrth greu a'i gynnal
  • y buddion y gall meithrin llesiant ei gyflwyno i'ch sefydliad.

Bydd y ffordd y mae cyflogwyr yn ymateb i lesiant gweithwyr drwy gydol pandemig COVID-19 a thu hwnt yn allweddol i gynnal cynhyrchiant a'r broses o ymgysylltu â chyflogeion a lleihau absenoldebau a/neu drosiant staff.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn aml yn cael ei wawdio fel 'cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhemp' neu ymarfer tic bocs ar gyfer gofynion cyfreithiol, ond mae'r cwrs hwn wedi pwysleisio'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae yn cyflawni diwylliant llesiant. Mae gwneud eich sefydliad yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn hyrwyddwr cyfleoedd cyfartal yn fwy na dyletswydd foesol neu gyfreithiol, mae'n fuddsoddiad yn yr ased pwysicaf sydd gan eich sefydliad: y bobl sy'n gweithio yno.

Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi Gweithio Hybrid a Thrawsnewid Digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , efallai yr hoffech ei archwilio ymhellach.