Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.2 Buddion a chostau cynnal llesiant yn y gweithle

Mae pob sefydliad yn dibynnu ar gael gweithwyr iach a chynhyrchiol, felly os ydych yn cefnogi llesiant eich staff, maent yn llawer mwy tebygol o gyflawni'ch nodau busnes. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn, yn y sector AU, nid yn unig y mae'r nodau hyn yn effeithio gweithwyr eich sefydliad, ond hefyd eich myfyrwyr.

Mae adroddiad 2021 Jisc, Student and staff wellbeing in higher education, yn pwysleisio pedair egwyddor ar gyfer llesiant mewn AU:

  • Mae llesiant ar gyfer pawb: dull poblogaeth gyfan – Cawn i gyd ein heffeithio gan ein llesiant meddwl a llesiant meddwl eraill.
  • Mae llesiant yn brosiect gydol oes: dull bywyd cyfan – Nid yw llesiant yn dechrau pan fydd unigolyn yn dod yn fyfyriwr israddedig ac yn dod i ben pan fydd yn graddio neu'n cael swydd. Mae angen dysgu a datblygu sgiliau gydol oes er mwyn meithrin gwydnwch.
  • Mae llesiant wedi'i fewnosod ym mhob gweithgaredd: dull cwricwlwm cyfan – Mae prifysgolion yn sefydliadau iechyd yn ogystal â sefydliadau dysgu. Er mwyn i unigolion ffynnu a dysgu, ni ellir gwahaniaethu cynnydd iechyd a chynnydd dysgu.
  • Mae llesiant yn ymdrech gyfunol: dull prifysgol gyfan – Mae'r dull prifysgol gyfan yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb. Mae'n newid llesiant meddwl o fod yn bryder i wasanaethau cefnogi iechyd ac iechyd meddwl myfyrwyr yn unig, a chynnwys y gymuned gyfan. Mae angen ymdrech ac arweinyddiaeth barhaol ar gyfer hyn.