Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1 Gwneud llesiant a chynhwysiant yn flaenoriaeth

Un ffordd o wneud llesiant yn flaenoriaeth yw gweithio gyda sefydliad fel Mind, y mae eu Mynegai Llesiant yn y Gweithle yn enghraifft sylfaenol o'r polisi ac ymarfer gorau mewn perthynas â llesiant. Gwyliwch y fideo byr drwy ddilyn y ddolen isod am ragor o wybodaeth ynghylch hyn.

Our Workplace Wellbeing Index [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (agorwch y ddolen mewn tab/ffenestr newydd er mwyn i chi allu dychwelyd yn rhwydd).

Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru adnodd Newid Syml sy'n argymell i chi adolygu polisïau eich sefydliad i sicrhau bod cyfleoedd i wella iechyd a llesiant eich gweithle yn cael eu huchafu. Dilynwch y ddolen ym Mlwch 5 i wylio fideo astudiaeth achos o'r camau gweithredu mae un cwmni yn eu cymryd i ddarparu gweithle iach i'w staff.

Blwch 5 Newid Syml #23

Os nad ydych yn siŵr sut i wneud llesiant yn y gweithle yn flaenoriaeth, mae gan Zest for Work (2022) rai awgrymiadau yn eu herthygl ‘What is workplace wellbeing and how to start?’.