Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a gorlwytho

Roedd Adran 3 yn rhoi cipolwg ar agweddau ar gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a gorlwytho. Bydd yr adran hon yn trafod natur ymarferol rheoli'r materion hyn o ddydd i ddydd mewn amgylchedd gweithio hybrid.

Mae technolegau digidol, dyfeisiau clyfar, band eang cyflym iawn a chyfrifiadura ar gwmwl yn golygu bod gwaith ar flaen bysedd nifer o bobl, 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'r diwylliant 'gweithio bob amser' yn ei gwneud hi'n heriol cynnal rheolaeth effeithiol o lwyth gwaith a chynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd. Gwaethygwyd yr her hon gan y pandemig a orfododd nifer ohonom i greu 'swyddfa' yn ein cartref.

Mewn holiadur diweddar gan CIPD (2020), dywedodd 86% o'r ymatebwyr mai 'methu ag ymlacio yn ystod oriau y tu allan i'r gwaith' yw'r brif effaith negyddol mae technoleg yn ei chael ar lesiant. Yn agos ar ôl hwn oedd y straen sy'n deillio o dechnoleg yn methu (70%).

Er mwyn cynnal ein llesiant yn wyneb hyn i gyd, mae angen strategaethau ar waith arnom er mwyn ein hatal ni rhag llosgi'r gannwyll yn ei deupen.

Yn y fideo a ganlyn mae Grace Emiohe o'r Brifysgol Agored yn rhannu ei phrofiadau o gynnal ei llesiant ei hun.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep104_diverse_voices_british_nigerian_female_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 7 Monitro'ch amser yn gweithio ar-lein/ar sgrin

Os yw gweithio o bell am beth o'ch amser, neu eich amser cyfan, wedi golygu nad ydych yn glynu'n gaeth at oriau traddodiadol y swyddfa, mae'n bwysig cadw cofnod o'r amser rydych yn ei dreulio ar-lein/wrth y sgrin, er mwyn sicrhau nad ydych yn dod yn weithiwr sydd bob amser ar-lein yn anfwriadol.

Yn ystod yr wythnos nesaf, ceisiwch wneud nodyn o'ch 'amser ar sgrin', boed hynny'n defnyddio cyfrifiadur (bwrdd gwaith neu liniadur), llechen, ffôn clyfar neu unrhyw fath arall o dechnoleg ddigidol sy'n ymwneud â gwaith. Cyfrwch bob dyfais ar wahân. Efallai yr hoffech gymryd egwyl rhag y sgrin i gofnodi'ch amser gyda phapur a phin ysgrifennu!

Talwch sylw arbennig i amseroedd nad oeddech wedi bwriadu gweithio, ond bod hwylustod technoleg yn golygu eich bod wedi gweithio serch hynny. Er enghraifft, pan oeddech yn eistedd ar eich soffa yn gwylio teledu fin nos, gyda'ch ffôn clyfar wrth eich penelin, a hysbysiad ynghylch gwaith yn fflachio ar eich ffôn, a chithau'n methu'n glir ag ymatal rhag ei wirio.

Yn ogystal, ceisiwch nodi pa un ai a oeddech yn teimlo bod yr amser ar-lein/ar y sgrin yn arbennig o gadarnhaol (e.e. gwnaeth i chi deimlo'n fodlon gyda'ch cynhyrchedd) neu'n negyddol (e.e. darllen negeseuon e-bost y tu hwnt i oriau gwaith yn eich rhoi dan straen neu'n eich gwneud yn flin). Os na achosodd unrhyw deimladau cryf y naill ffordd neu'r llall, does dim angen i chi nodi hynny.

Ar ddechrau'r wythnos, gwnewch nodyn o gyfanswm yr oriau y byddech yn ei ddisgwyl ac yna, ar ddiwedd yr wythnos, edrychwch ar eich nodiadau er mwyn nodi faint o amser y gwnaethoch ei dreulio ar-lein/wrth y sgrin, a pha effeithiau a gafodd yr ymatebion emosiynol a nodwyd gennych ar eich llesiant.

Gwnewch nodiadau i grynhoi eich profiad, gan gynnwys p'un a oedd y cyfanswm oriau yn ddisgwyliedig, yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

A wnaethoch chi gofnodi mwy neu lai o amser na'r disgwyl?

A oedd modd osgoi'r gweithgareddau a achosodd emosiynau negyddol (os unrhyw rai), neu a allech chi weithredu i leihau'r rhain?

A wnaeth unrhyw rai o'r gweithgareddau greu ymdeimlad cadarnhaol o gysylltiad neu gymuned gyda'ch cydweithwyr? Neu a fyddai'r pethau a deimlasoch wedi'u gwneud yn fwy effeithiol wyneb yn wyneb/oddi wrth sgrin?